Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Cyngor a baratowyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio at ddefnydd ei Harolygwyr

Amodau Awgrymedig mewn Caniatâd i Sipsiwn

Cyfyngu meddiannaeth safle i Sipsiwn

1. Nid yw'r caniatâd hwn yn awdurdodi defnyddio'r tir fel safle carafannau gan unrhyw rai eraill ar wahân i sipsiwn a theithwyr, fel y'u diffiniwyd ym mharagraff 15 o Gylchlythyr Swyddfa'r Dirprwy Brif Weinidog 01/2006

Amodau personol

2. Dim ond y canlynol a'u dibynyddion preswyl: (nodwch yr enwau) fydd yn cael meddiannu'r safle fel a ganiateir drwy hyn.

3. Pan fydd y rhai a enwir yn amod x uchod yn rhoi'r gorau i feddiannu'r tir, bydd y defnydd a ganiateir trwy hyn yn darfod, a chaiff pob carafán, strwythur, deunydd a chyfarpar y daethpwyd â hwy ar y tir mewn cysylltiad â'r defnydd, yn cynnwys y bloc amwynder a gymeradwyir trwy hyn, eu symud ymaith. O fewn x mis o'r amser hwnnw caiff y tir ei adfer i'w gyflwr fel ag yr oedd cyn i'r defnydd gychwyn.

Amodau dros dro a phersonol

4. Dim ond Mr/s, ei gwr a'i phlant ac ati fydd yn gwneud defnydd o'r safle fel a ganiateir drwy hyn, a bydd am gyfnod cyfyngedig sef y cyfnod o x o flynyddoedd o ddyddiad y penderfyniad hwn, neu'r cyfnod y meddiannir y safle ganddynt, p'un bynnag sydd fyrraf.

5. Pan fydd Mr/s, ei gwr a'i phlant ac ati yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'r safle, neu ar ddiwedd x o flynyddoedd , p'un bynnag a ddaw gyntaf, bydd y defnydd a ganiateir trwy hyn yn darfod, a chaiff pob deunydd a chyfarpar y daethpwyd â hwy ar y tir mewn cysylltiad â'r defnydd [,yn cynnwys y bloc amwynder a gymeradwyir trwy hyn,] eu symud ymaith, a chaiff y tir ei adfer i'w gyflwr blaenorol.

Amodau dros dro

6. Bydd y defnydd a ganiateir trwy hyn am gyfnod cyfyngedig sef y cyfnod o x o flynyddoedd o ddyddiad y penderfyniad hwn. Ar ddiwedd y cyfnod hwn bydd y defnydd a ganiateir trwy hyn yn darfod, a chaiff pob deunydd a chyfarpar y daethpwyd â hwy ar y tir mewn cysylltiad â'r defnydd eu symud ymaith, a chaiff y tir ei adfer i'w gyflwr blaenorol.

7. Bydd y defnydd a ganiateir trwy hyn yn dod i ben a chaiff y tir ei adfer i'w gyflwr blaenorol ar neu cyn diwedd cyfnod o x o flynyddoedd o ddyddiad y penderfyniad hwn yn unol â chynllun gwaith a gyflwynwyd i'r awdurdod cynllunio lleol, ac a gymeradwywyd ganddo.

Nodi nifer y carafannau a'r math o garafannau

8. Ni leolir mwy na x carafán, fel y'i diffiniwyd yn Neddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 a Deddf Safleoedd Carafannau 1968 (ni fydd mwy nag y o'r rhain yn garafannau sefydlog neu gartrefi symudol) ar y safle ar unrhyw adeg.

9. Cyfyngir y defnydd preswyl a ganiateir trwy hyn i leoli nid mwy nag x o garafannau ar unrhyw adeg (ni fydd mwy nag y o'r rhain yn garafannau sefydlog neu gartrefi symudol).

10. Ni fydd mwy nag x o leiniau ar y safle, ac ni ddylid lleoli mwy na dwy garafán ar bob un o'r x o leiniau a ganiateir trwy hyn ar unrhyw adeg, a dim ond un o'r carafannau hynny fydd yn gartref symudol preswyl.
11. Bydd unrhyw garafannau a leolir ar y safle o'r fath ag y gellir eu llusgo ar y briffordd gyhoeddus, yn unol â deddfwriaeth berthnasol y Ddeddf Priffyrdd, heb ymrannu'n rhannau ar wahân.

Lleoli carafannau

12. Ni chaniateir dod â charafán i'r safle tan fod manylion ei lleoliad arfaethedig wedi'u cyflwyno yn ysgrifenedig i'r awdurdod cynllunio lleol, a'u cymeradwyo gan yr awdurdod hwnnw. Dim ond yn y lleoliad(au) a gymeradwywyd y caiff y carafannau eu lleoli, oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gan yr awdurdod cynllunio lleol.

13. Ni chaiff carafán ei lleoli ar y tir ac eithrio o fewn yr ardal a ddangosir gyda chroes-linellau du ar gynllun xxx sy'n atodedig.

14. Rhaid lleoli'r carafannau yn unol â chynllun Rhif: ...

15. Caniateir newid perthnasol i leoliad cartref symudol, neu ei ddisodli gan gartref symudol arall mewn lleoliad gwahanol drwy ganiatâd ysgrifenedig y Cyngor yn unig.

Pan fydd datblygiad wedi mynd rhagddo eisoes ac nad oes manylion (derbyniol) am y lleoliad ar sail map, defnyddir amod yn seiliedig ar yr amod a awgrymir isod ar gyfer Cyflwyno manylion.

Gweithgareddau diwydiannol/masnachol ar y safle.

16. Ni chaniateir cynnal gweithgareddau masnachol ar y tir, gan gynnwys storio deunyddiau.

17. Ni chaniateir cynnal gweithgareddau masnachol ar y tir, gan gynnwys storio deunyddiau, ar wahân i weithgareddau o fewn yr ardal a ddangosir ar gynllun Rhif xxxx. Ni chaniateir storio deunydd yn uwch nag x, na llosgi deunyddiau ar y safle, nac unrhyw weithgareddau masnachol, sy'n glywadwy ar ffin y safle, y tu allan i'r oriau 00.00 - 00.00 dydd Llun - dydd Sadwrn ac nid o gwbl ar ddydd Sul.

Cerbydau masnachol

18. Ni chaniateir lleoli, parcio na storio unrhyw gerbyd sy'n fwy na 3.5 tunnell ar y safle.

19. Ni chaniateir cadw mwy nag un cerbyd masnachol fesul plot ar y tir at ddefnydd preswylwyr y carafannau a ganiateir trwy hyn, ac ni ddylent bwyso mwy na 3.5 tunnell.

Blociau amwynderau ac adeiladau/strwythurau eraill

20. O fewn tri mis i ddyddiad y penderfyniad hwn, rhaid cyflwyno manylion am ddeunyddiau'r blociau tolied/gwasanaeth i'r awdurdod cynllunio lleol. Rhaid adeiladu'r blociau yn unol â'r manylion a gymeradwywyd.

21. Ni chaniateir adeiladu'r bloc amwynderau a gymeradwyir trwy hyn tan fod samplau o'r deunyddiau sydd i'w defnyddio i adeiladu arwynebau allanol yr adeilad wedi'u cyflwyno i'r awdurdod cynllunio lleol a'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ganddo. Rhaid cyflawni datblygiadau yn unol â'r manylion a gymeradwywyd.
Cyflwyno manylion pellach.

22. Bydd y defnydd a ganiateir trwy hyn yn dod i ben, a bydd yn rhaid symud pob carafán, strwythur, cyfarpar a deunydd a ddaethpwyd â hwy ar y tir at ddiben defnydd o'r fath o fewn [28 diwrnod] o ddyddiad methiant i fodloni un o'r gofynion a nodir yn (i) i (iv) isod:

i) o fewn 3 mis o ddyddiad y penderfyniad hwn, rhaid cyflwyno cynllun ar gyfer:

[y dull o ddraenio dwr brwnt a dwr arwyneb o'r safle;
y goleuadau arfaethedig a'r goleuadau sydd eisoes yn bodoli ar ffin y safle ac o fewn y safle;
gwell lleiniau gwelediad wrth fynedfa'r safle;
cynllun mewnol y safle, gan gynnwys lleoliad carafannau, lleiniau, ardaloedd ag arwyneb caled, ffyrdd mynediad, meysydd parcio ac ardaloedd amwynder;
plannu coed, gwrychoedd a phrysgwydd a chodi twmpathau pridd lle bo'n briodol, gan gynnwys manylion am rywogaethau, maint y planhigion a niferoedd a dwyseddau arfaethedig;
a/neu unrhyw fanylion eraill i'w nodi ]
dylid cyflwyno (cyfeirir ato o hyn ymlaen fel cynllun datblygu'r safle) ar gyfer cymeradwyaeth ysgrifenedig yr awdurdod cynllunio lleol, a rhaid i'r cynllun hwnnw gynnwys amserlen weithredu.

ii) o fewn 11 mis o ddyddiad y penderfyniad hwn rhaid bod cynllun datblygu'r safle wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod cynllunio lleol neu, os yw'r awdurdod cynllunio lleol yn gwrthod cymeradwyo'r cynllun, neu'n methu â rhoi penderfyniad o fewn y cyfnod rhagnodedig, rhaid bod apêl wedi'i gwneud i'r Ysgrifennydd Gwladol, a'i dderbyn fel apêl ddilys ganddo.

iii) os gwneir apêl o ganlyniad i (ii) uchod, rhaid bod yr apêl honno wedi'i phenderfynu yn derfynol a bod cynllun datblygu'r safle wedi'i gymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

iv) rhaid bod y cynllun a gymeradwywyd wedi'i gyflawni a'i gwblhau yn unol â'r amserlen gymeradwy.

23. Ar yr un adeg ag y cyflwynir cynllun datblygu'r safle, sy'n ofynnol o dan amod x uchod, i'r awdurdod cynllunio lleol, rhaid cyflwyno amserlen cynnal a chadw am gyfnod o bum mlynedd o'r gwaith plannu arfaethedig, gan ddechrau ar ôl cwblhau'r cyfnod gweithredu olaf fel sy'n ofynnol gan yr amod hwnnw. Bydd yr amserlen yn darparu ar gyfer plannu, yn yr un safle, coeden, gwrych neu brysgwydd yn lle unrhyw goeden, gwrych neu brysgwydd a symudir, a ddiwreiddir neu a ddinistrir neu sy'n marw, neu, ym marn yr awdurdod cynllunio lleol, sy'n cael ei niweidio'n ddifrifol neu sy'n ddiffygiol, o'r un rhywogaeth a maint â'r hyn a blannwyd yn wreiddiol. Gwneir y gwaith cynnal a chadw yn unol â'r amserlen gymeradwy.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English