Gwybodaeth Asiantaeth yr Arolygaeth GynllunioGwneud CwynCyflwyniad Rydym yn croesawu awgrymiadau, ymholiadau a chwynion am bob agwedd o’n gwaith, ac yn eu hystyried yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am y modd rydym yn delio ag apeliadau ac ansawdd gwaith yr Arolygwyr. Bydd cwynion, beth bynnag fo’u sail, yn cael eu trin yn drylwyr, yn gwrtais ac yn brydlon. Sylwer y gallwn ddelio â chwynion sy’n ymwneud â gwaith yr Arolygaeth yn unig . Os ydych yn poeni ynglŷn â phenderfyniadau cynllunio a wnaed gan eich cyngor lleol neu ynglŷn â’r system gynllunio yn gyffredinol,dylech ysgrifennu naill ai at y cyngor ei hun neu at Is-adran Gynllunio Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ewch i’n dogfen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml am fwy o help a gwybodaeth. Cwestiynau a Ofynnir yn Aml ( Am wybodaeth ar sut i wneud cwyn mewn perthynas ag achos Hawliau Tramwy, ewch i’n tudalennau ar Hawliau Tramwy. Cwynion am yr Arolygydd neu’r Penderfyniad Os yw eich cwyn yn ymwneud â’r modd wnaeth yr Arolygydd drafod yr ymweliad â’r safle, y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, neu os ydych yn meddwl bod y penderfyniad ei hun yn cynnwys camgymeriadau neu’n ddiffygiol mewn unrhyw ffordd, bydd y Swyddog Cwynion yn delio â’ch cwyn. Rydym yn ymchwilio i bob cwyn yn drylwyr ac yn ddiduedd, ac mae’n fater difrifol iawn os ddaw camgymeriad i’n sylw. I’r perwyl hwn, mae gennym darged ansawdd llym dros ben, sef bod 99% o’r penderfyniadau a gyhoeddwyd gennym yn hollol gywir. Os, ar ôl ymchwilio i’r gŵyn, byddwn yn cytuno bod unrhyw ran ohoni’n gywir, byddwn yn ysgrifennu atoch i ymddiheuro am hyn. Yn ogystal, byddwn yn cymryd camau i geisio sicrhau na fydd camgymeriad tebyg yn digwydd eto. Er y gallwn gywiro rhai camgymeriadau bach mewn ambell i achos, ni allwn ail-agor apêl er mwyn ailystyried ei theilyngdod, nac ychwanegu at yr hyn a ddywedodd yr Arolygydd. Nid oes unrhyw bŵer cyfreithiol ar gyfer ailystyried yr apêl oni bai bod penderfyniad yr Arolygydd yn cael ei newid yn llwyddiannus yn yr Uchel Lys. Ewch i’r nodiadau canllaw atodol am fwy o wybodaeth ynglŷn â’n gweithdrefn gwyno. Gwneud Cwyn ( Herio Penderfyniad yr Uchel Lys Mae’r llythyr penderfyniad yn ddogfen gyfreithiol a gall penderfyniad Arolygydd gael ei ailystyried dim ond os yw’n cael ei herio’n llwyddiannus yn yr Uchel Lys. Rhaid gwneud unrhyw her debyg ar unwaith. Ewch i’r nodyn canllaw atodol am fwy o wybodaeth ynglŷn â herio penderfyniad yn yr Uchel Lys. Herio’r Penderfyniad ( Barnu Dros eich Hyswgydd /Judge Over Your Shoulder Cwynion ynglŷn â’r Weithdrefn Os yw eich cwyn yn ymwneud â gweithdrefn yr achos, bydd rheolwr o’n tîm gweithredu’n ymchwilio i’ch cwyn. Mwy o Gwestiynau Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r modd rydym yn trin cwynion, ewch i’n dogfen Cwestiynnau a Ofynnir yn Aml ( Sut i wneud cwyn Os ydych am gwyno ynglŷn ag unrhyw agwedd o unrhyw apêl yng Nghymru, cysylltwch â’r cyfeiriad isod:
Cwynion Ysgrifenedig Dylai unrhyw un sy’n ysgrifennu i gwyno dderbyn ateb llawn o fewn 3 wythnos i’r dyddiad y derbyniwyd y gŵyn. Os na allwn wneud hynny, byddwn yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu o hyn. Os na chredwn fod modd o cyfiawnhau’r gŵyn byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam. Cwynion dros y Ffôn Byddwn yn delio â chwynion dros y ffôn ar unwaith lle bynnag y bo’n bosibl. Lle mae angen ymchwilio mwy i broblem, byddwn yn ceisio cael gafael ar y wybodaeth angenrheidiol ac yna ysgrifennu atoch. Os yw’r gŵyn yn codi materion cymhleth mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ei rhoi ar ddu a gwyn er mwyn osgoi unrhyw gamddealltwriaeth. Mewn achos o gŵyn dros y ffôn lle mae angen ateb ysgrifenedig, byddwn yn trin y gŵyn fel un ysgrifenedig ac yn ceisio ateb o fewn y terfynau amser a nodwyd uchod. Cwynion ar ffurf neges e-bost Os anfonwch neges e-bost atom, byddwn yn ei thrin o fewn yr un terfynau amser â gohebiaeth ysgrifenedig. Fodd bynnag, oni bai eich bod wedi gofyn i ni amgaú dogfennau nad ydynt ar gael ar ffurf electronig byddwn yn ateb ar ffurf neges e-bost. Cwyno i’r Ombwdsmon Os nad ydych yn hapus gyda’n hateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru’n delio â chwynion gan aelodau’r cyhoedd sydd wedi dioddef annhegwch oherwydd camweinyddu gan adrannau’r llywodraeth, asiantaethau a chyrff cyhoeddus penodol eraill yng Nghymru. Nid gwas sifil yw’r Ombwdsmon, ond swyddog a benodwyd gan y Frenhines. Mae ei wasanaethau’n annibynnol, cyfrinachol ac am ddim. Gellir cysylltu â’r Ombwdsmon fel a ganlyn:
Sut i edrych ar ddogfennau PDFGallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |