Yr Arolygiaeth Gynllunio - Rheoli Corfforaethol - CrynodebY Prif Weithredwr1. Y Prif Weithredwr sy’n bersonol gyfrifol am reoli’r Arolygiaeth yn effeithiol yn unol â’r Ddogfen Fframwaith ac yn unol â’r rheolau gwasanaeth sifil arferol ar briodoldeb a sicrhau gwerth am arian. Y Bwrdd Rheoli Strategol2. Mae’r Prif Weithredwr wedi penodi Bwrdd Rheoli Strategol i gyfarwyddo gwaith yr Arolygiaeth o fewn y paramedrau a nodwyd yn y Ddogfen Fframwaith. Y Pwyllgor Archwilio3. Mae’r Pwyllgor Archwilio yn un o is-bwyllgorau’r Bwrdd Rheoli Strategol. Ei brif amcan yw rhoi cyngor i’r Prif Weithredwr fel Swyddog Cyfrifo’r Asiantaeth ar ddigonolrwydd trefniadau archwilio (mewnol ac allanol) ac ar oblygiadau ar gyfer rheolaeth gorfforaethol o ran y sicrwydd a ddarperir mewn perthynas â risgiau a rheolaeth yn y sefydliad. Y Tîm Rheoli 4. Mae’r Tîm Rheoli yn cynnwys uwch reolwyr yr Arolygiaeth.
Ei amcan yw darparu cyngor i’r Prif Weithredwr ar y gwaith o reoli’r
sefydliad o ddydd i ddydd. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |