Yr Arolygiaeth Gynllunio - Rheoli Corfforaethol - CrynodebY Bwrdd Rheoli StrategolAmcan1. Amcan y Bwrdd Rheoli Strategol yw darparu cyngor strategol i’r Prif Weithredwr. Wrth gyflawni’r amcan hwnnw bydd yn:
Nid yw’r Bwrdd Rheoli Strategol yn rhan o’r gwaith o reoli’r Arolygiaeth o ddydd i ddydd. Cyfansoddiad2. Yn ogystal â’r Prif Weithredwr, mae Aelodau Strategol o’r Bwrdd yn cynnwys y Dirprwy Brif Weithredwr/Pennaeth Proffesiwn, Cyfarwyddwyr Is-adrannol, Pennaeth yr Is-adran Polisi Ansawdd a Hyfforddi a’r Cyfarwyddwyr Anweithredol. Cyfarwyddwyr Anweithredol3. Rôl y Cyfarwyddwyr Anweithredol yw cyfrannu at benderfyniadau cyfunol y Bwrdd ar faterion megis cynllunio busnes, polisi, strategaeth, perfformiad, adnoddau a Rheolaeth Gorfforaethol. Fe’u penodwyd i ddarparu persbectif allanol, i herio a chraffu ac i ddarparu gwybodaeth a chyngor annibynnol yn unol â’u meysydd unigol o arbenigedd yn seiliedig ar eu profiad ehangach mewn sefydliadau eraill. 4. Penodwyd y Cyfarwyddwyr Anweithredol yn dilyn cystadleuaeth agored ac yn unol â’r egwyddorion a nodwyd yn y cod ymarfer ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet a’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Gweithredu’r Bwrdd Rheoli Strategol5. Caiff Cyfarfodydd y Bwrdd Strategol eu cynnal yn chwarterol fel rheol. Gellir trefnu cyfarfodydd eraill pryd bynnag y bydd eu hangen gan ddibynnu ar fusnes yr Asiantaeth, ar ddisgresiwn y Prif Weithredwr. Yn absenoldeb y Prif Weithredwr, byddai’r angen am gyfarfod ychwanegol yn fater i Aelodau’r Bwrdd sydd ar gael benderfynu arno. 6. Nid oes angen isafswm aelodau’r Bwrdd i wneud cworwm. 7. Yn absenoldeb y Prif Weithredwr, y Dirprwy Brif Weithredwr fydd fel rheol yn cadeirio cyfarfod y Bwrdd. Os bydd angen galw am gyfarfod Bwrdd arall ar fyr rybudd, ac nad yw’r Prif Weithredwr na’r Dirprwy ar gael, yr aelodau hynny o’r Bwrdd sy’n bresennol fydd yn penderfynu sut y dylid rhedeg y cyfarfod. 8. Gwneir penderfyniadau ar y cyd, gan ystyried yn llawn gyfrifoldeb personol y Prif Weithredwr dros reoli’r Arolygiaeth yn effeithiol. Mewn unrhyw gyfarfod Bwrdd y mae’n rhaid ei gynnal yn absenoldeb y Prif Weithredwr, dylai’r Bwrdd geisio dod i gonsensws ar unrhyw gamau gweithredu arfaethedig; fel arall penderfyniad y mwyafrif fydd yn drech. Presenoldeb mewn cyfarfodydd9. Disgwylir i Aelodau’r Bwrdd fynychu cymaint o gyfarfodydd â phosibl. Bydd yr Ysgrifennydd yn aildrefnu cyfarfodydd lle y bydd hyn yn ymarferol os bydd mwy nag un aelod yn debygol o fod yn absennol. Gall dirprwyon ar ran Aelodau’r Bwrdd sy’n absennol fynychu cyfarfodydd y Bwrdd ar ddisgresiwn y Prif Weithredwr. 10. Gall aelodau priodol o staff (e.e. awduron papurau’r Bwrdd) fynychu cyfarfodydd y Bwrdd ar ddisgresiwn y Prif Weithredwr. 11. Caiff y Bwrdd hefyd gymorth gan Ysgrifennydd y Bwrdd, nad yw’n aelod llawn o’r Bwrdd ond sydd er hynny yn mynychu pob un o gyfarfodydd y Bwrdd. Mynegi penderfyniadau’r Bwrdd12. Cymeradwyir cofnodion yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd. Ar ôl eu cymeradwyo, sicrheir y bydd copïau o’r cofnodion ar gael ar y safle hwn. Dim ond i Aelodau’r Bwrdd y caiff cofnodion y Bwrdd a ddosberthir fel “Cyfyngedig” eu dosbarthu. Caiff cofnodion pellach eu dosbarthu ymysg staff yr Arolygiaeth os bydd angen iddynt gael gwybod am fater a drafodwyd. 13. Cyfrifoldeb yr aelodau hynny o’r Bwrdd Rheoli Strategol sydd hefyd yn aelodau o’r Tîm Rheoli yw sicrhau y rhoddir adborth priodol i staff yn eu His-adrannau ynglyn â phenderfyniadau’r Bwrdd. Agenda a phapurau 14. Bydd Ysgrifennydd y Bwrdd yn paratoi agenda ar gyfer Cyfarfodydd
y Bwrdd i’w chymeradwyo gan y Prif Weithredwr. Bydd y Bwrdd fel
rheol yn ystyried eitemau wedi’u hategu gan bapurau. Dim ond â
chymeradwyaeth y Prif Weithredwr y caiff eitemau llafar eu derbyn. Dylai
papurau, os yn bosibl, fod ar gael i’w dosbarthu erbyn diwedd y
dydd ar y dydd Gwener cyn y cyfarfod y cânt eu hystyried ynddo.
Mae’n rhaid i bob papur y seilir penderfyniadau arnynt fod ar gael
i’w dosbarthu ddau ddiwrnod cyn dyddiad y cyfarfod. Cyhoeddir papurau
ar y safle hwn oni bai y bydd yr awdur yn nodi “Cyfyngedig”
arnynt. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |