Prif Weithredwr
Katrine Sporle
Yn gyfrifol, o fewn pwerau wedi eu dirprwyo, am reoli'r Asiantaeth.
Yn atebol i'r Ysgrifennydd Gwladol a Llywodraeth Cynulliad Cymru
am reoli gweithrediadau'r Asiantaeth a'i pherfformiad yn erbyn amcanion
sydd wedi eu cytuno. |
 |
Cyfarwyddwr Gwaith Achos
Mark Southgate
BA (Hons) BTP MRTPI
Cyfrifoldeb dros rheoli gwaith achos yn unol â thargedau Gweinidogion a chenhadaeth ac amcanion cyffredinol yr Arolygiaeth. |
 |
Cyfarwyddwr Cymru
John Davies BSc MRTPI
Mae'n gyfrifol am bob mater yn ymwneud â'r Arolygiaeth Gynllunio yng Nghymru ac am gysylltu â'r Cynulliad Cenedlaethol. |
 |
Cyfarwyddwr Cynlluniau Datblygu, Polisi ac Ansawdd
Rynd Smith LLB MA MRTPI FRSA
Yn gyfrifol am holl faterion polisi cynllunio, gan gynnwys rhoi polisiau ar waith yn gyson. Yn gyfrifol hefyd am ddatblygiad gyrfa a hyfforddiant proffesiynol ar gyfer Arolygwyr a sicrhau ansawdd. |
 |
Cyfarwyddwr Cyllid, Adnoddau a Chynllunio Busnes
Tony Burn
Mae Tony yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau Cyllid, TG a Rheoli adnoddau a Phrynu yn cael eu darparu'n effeithlon ac effeithiol. Mae'n llunio cynlluniau a chyllidebau blynyddol, yn darparu gwybodaeth reoli fisol ac yn sicrhau bod ein systemau a'n rhwydweithiau TG yn diwallu anghenion y busnesau. Mae'n cydbwyso adnoddau arolygwyr yn erbyn ein llwyth gwaith apeliadau. Mae'n sicrhau ein bod yn prynu nwyddau a gwasanaethau yn effeithiol a bod gennym lety priodol ar gyfer staff swyddfa. |
 |
Cyfarwyddwr Anweithredol
Roedd Ms Jane Earl yn Brif Weithredwr cyngor lleol rhwng 1999 a 2003. Hi oedd Cyfarwyddwr cyntaf yr Asiantaeth Adennill Asedau (2003-7) ac ar hyn o bryd hi yw Prif Weithredwr (dros dro) Canolfan Celfyddydau 'Rich Mix'. Gweithiodd ar lefel Bwrdd Strategol am yr 8 mlynedd diwethaf ac ar hyn o bryd mae'n cyfrannu at Fwrdd Asiantaeth y Swyddfa Brisio a Bwrdd Canolfan Celfyddydau 'Rich Mix'. |
 |
Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae gan Mr Deep Sagar brofiad helaeth mewn uwch swyddi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, gan gynnwys gyda Coca Cola ac Unilever Bestfoods, ac fel Cadeirydd GIG 24. Mae ei benodiadau presennol yn cynnwys Cadeirydd LEASE, aelod o Fwrdd Thurrock Thames Gateway Development Corporation, aelod o'r Tribiwnlysoedd Cyflogaeth a'r Panel Cynghori ar Gasinos. |
 |
Cyfarwyddwr Anweithredol
Mae gan yr Athro Colin Jones gyfoeth o brofiad ar lefelau Gweithredol ac Anweithredol yn y sector cyhoeddus (Iechyd a Llywodraeth Leol) ac ar lefel yr Uwch Wasanaeth Sifil yn y Swyddfa Gymreig. Ar hyn o bryd mae'n un o Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru, yn un o Athrawon gwadd y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Morgannwg, ac yn Gadeirydd Grŵp Cynghorol Cymru Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar. |
 |
| |
|