Symleiddio'r broses apelio - Y Gwasanaeth Gwaith Achos CynllunioYn helpu i ddarparu system apeliadau cynllunio symlach, mwy effeithlon a hawdd ei defnyddioYm mis Tachwedd 2004, cyflwynodd yr Arolygiaeth Gynllunio y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio (PCS), sef gwasanaeth ar-lein newydd sy'n rhoi mynediad gwell a haws i bobl i'r system gynllunio. Mae'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio ar gael ar y Rhyngrwyd drwy'r Porth Cynllunio, sef Gwefan sy'n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau ar gynllunio. Y Porth Cynllunio, a ddatblygwyd ac a lansiwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio yn 2000, ac a weithredir gan ODPM erbyn hyn, yw'r man cychwyn ar gyfer unrhyw un sydd am wybod mwy am y system gynllunio yng Nghymru a Lloegr. Gellir defnyddio'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio yn Lloegr i wneud Apeliadau Gorfodi (yn cynnwys apeliadau Hysbysiad Gorfodi Adeilad Rhestredig / Ardal Gadwraeth) ac Apeliadau Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon ac i wneud Apeliadau Cyfyngu Mynediad o dan adran 30(3) Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn Lloegr. Drwy gydol 2005, bydd y Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio yn cael ei ymestyn i ddelio ag apeliadau cynllunio a gwaith achos arall yr Arolygiaeth, a bydd hefyd yn cael ei cyflwyno ar gyfer gwaith achos yng Nghymru. Manteision defnyddio'r Gwasanaeth Gwaith Achos CynllunioMae'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio yn rhagori ar y system bresennol i ddefnyddwyr y system apeliadau, oherwydd byddant yn gallu cyfathrebu'n haws â'r Arolygiaeth. Gan ddefnyddio'r Porth Cynllunio, gall pobl wneud apeliadau a'u holrhain ar-lein. Gallant weld apeliadau lleol a chenedlaethol, eu gweld ar fap, gwneud sylwadau ar-lein, olrhain cynnydd mewn amser gwirioneddol ac edrych ar benderfyniadau. Mewn gwirionedd, bydd y rhai sy'n ymweld â'r wefan yn dod o hyd i bopeth y mae angen iddynt ei wybod am y mathau hyn o apeliadau. Mae'r Gwasanaeth Gwaith Achos Cynllunio yn darparu dulliau ar-lein defnyddiol, fel ffurflenni apelio syml sy'n hawdd eu defnyddio, sy'n caniatáu i ddefnyddwyr anfon apêl yn uniongyrchol i'r Arolygiaeth. Mae pwyntiau defnyddiol ar gael o ran sut i gwblhau'r ffurflen a sut i lwytho dogfennau a lluniau electronig, fel y bydd gan ddefnyddwyr gyfle gwell o lwyddo'r tro cyntaf. Bydd defnyddwyr yn cael derbynneb ar y sgrin a fydd yn rhoi gwybod iddynt fod eu hapêl wedi'i derbyn. Bydd rhai awdurdodau lleol yn fodlon derbyn copi e-bost o apêl a wnaed ar-lein. Mae rhestr o awdurdodau o'r fath a'r cyfeiriad e-bost y dylech ei ddefnyddio ar gael ar y Porth Cynllunio. Gall awdurdodau lleol gwblhau a chyflwyno holiaduron eu hapeliadau ar-lein ar gyfer yr achosion hyn. Mae anfon apeliadau dros yr e-bost yn cyflymu'r broses ac yn arbed arian i ddefnyddwyr am ei bod yn golygu nad oes angen iddynt wneud copïau ychwanegol. Sut i'w ddefnyddio a'i wellaNi allai defnyddio'r gwasanaeth fod yn haws. Ewch i www.planningportal.gov.uk/pcs a dilynwch y cyfarwyddiadau syml. Credwn fod y gwasanaeth hwn yn hawdd i'w ddefnyddio, ond os oes angen cymorth arnoch i'w ddefnyddio, mae testun cymorth ar gael ar y sgrin. Gallwch hefyd anfon neges e-bost at Uned Cymorth Cwsmeriaid yr Arolygiaeth, neu ei ffonio i gael cymorth. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu un man cyswllt ar gyfer pob un o'n gwasanaethau yn Lloegr. Rydym yn ceisio gwella ein gwasanaeth yn barhaus, felly rydym yn croesawu eich sylwadau ar ffyrdd y gallwn wneud hyn. Anfonwch eich sylwadau ar ffurf neges e-bost at pcs@pins.gsi.gov.uk.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |