Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Caffael

Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio uned Caffael a Chontractau arbenigol (PCU) yn ei phencadlys ym Mryste. Fel gwasanaeth cynorthwyol wedi'i ganoli, mae PCU yn gyfrifol am gaffael amrywiaeth eang o nwyddau a gwasanaethau gan sicrhau bod pob gweithgarwch caffael yn dilyn yr arfer gorau.

Ceisia PCU gael y gwerth gorau am arian. Mae hyn yn golygu prynu'r eitemau sy'n
diwallu ein hanghenion orau, gan ystyried nifer o ffactorau, a all gynnwys ansawdd, gwasanaeth, cyflawni yn erbyn pris a chostau oes gyfan, gan gynnwys costau cynnal a chadw a gwaredu.

Mae PCU yn ymrwymedig i'w gwneud mor hawdd â phosibl i gyflenwyr presennol a darpar gyflenwyr ddelio â'r Arolygiaeth Gynllunio.

  • Anelwn at hyrwyddo PCU fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cwmnïau sydd â diddordeb mewn delio â'r Arolygiaeth.
  • Rydym yn caffael nwyddau a gwasanaethau drwy gystadleuaeth lle y bo'n briodol.
  • Defnyddiwn nifer o feini prawf wrth werthuso cynigion i sicrhau gwerth am arian gan gyflenwyr.
  • Rydym bob amser yn rhoi adborth i gynorthwyo cyflenwyr llwyddiannus ac aflwyddiannus;
  • Rydym bob amser yn gweithredu mewn ffordd onest a chywir.
  • Cyfathrebwn yn agos â Chymunedau a Llywodraeth Leol (http://www.communities.gov.uk) a Swyddfa Masnach y Llywodraeth (http://www.ogc.gov.uk/) - a sefydlwyd i hyrwyddo cydweithio a gwella arferion caffael ym mhob rhan o Lywodraeth.
  • Gwnawn ddefnydd helaeth o gaffael ar y cyd (yn arbennig Fframweithiau 'Catalist').

Ynglyn â'r Tîm

Mae'r tîm Caffael yn cydweithio gyda'r busnes a'r tîm yw'r prif bwynt cyswllt ar gyfer cwmnïau sydd â diddordeb mewn delio â'r Arolygiaeth.

Aelodau'r tîm:

Phil Taylor MCIPS
Pennaeth Caffael

Phil Taylor Tori Brunt

Tori Brunt
Rheolwr Caffael

Julie McQuarrie
Swyddog Contractau

Julie McQuarrie Gemma Warren

Gemma Warren
Gweithredydd Caffael

Manylion Cyswllt cyffredinol:

Ffôn:0117 372 8608
E-bost: procurement@pins.gsi.gov.uk

Telerau ac Amodau'r Arolygiaeth

Oni chyfeiriwyd yn benodol at dermau eraill wrth ddyfarnu contract, caiff yr Amodau Contract Gwasanaethau Cyffredinol (1-45) eu priodoli i gontractau a ddyfernir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.

Terms and Conditions 274kb

Cod Ymarfer Da

Mae Swyddfa Masnach y Llywodraeth wedi datblygu a chyhoeddi Cod Ymarfer Da ar gyfer Cwsmeriaid i'w ddefnyddio gan holl sefydliadau'r Llywodraeth sy'n prynu yn ogystal â phob Cyflenwr sy'n ymwneud â'r sefydliadau hynny.

Bydd y cod canllaw hwn yn eich cynorthwyo i ddeall sut rydym yn gweithio a sut y gallwch weithio'n llwyddiannus gyda ni.

http://www.ogc.gov.uk/documents/codeofcusprac.pdf

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000

Canllawiau ar gyfer Cyflenwyr

Ar 1 Ionawr 2005, daeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ddatgelu gwybodaeth a gofnodwyd pan wneir cais amdani, i'w llawn rym. Mae'r Ddeddf yn ôl-weithredol ac yn cwmpasu'r holl wybodaeth a gedwir gennym ni, neu a gedwir ar ein rhan, ar yr adeg y gwneir y cais, waeth pryd y crëwyd y wybodaeth. Yn ymarferol, bydd cydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol yn golygu bod mor agored â phosibl wrth ddelio â chais am wybodaeth.  Yn naturiol, bydd cyflenwyr i'r Arolygiaeth Gynllunio yn bryderus ynglŷn ag effaith y Ddeddf ar wybodaeth a gyflwynir i ni. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol o'r angen i ddiogelu gwybodaeth sy'n sensitif yn fasnachol a gallai rhai manylion - gan gynnwys cyfrinachau masnach neu wybodaeth a allai beryglu buddiannau masnachol rhywun pe'i datgelir - gael eu heithrio rhag eu datgelu. Byddwn yn ceisio dibynnu ar yr eithriadau hynny lle y bo'n briodol i ni wneud hynny. Hefyd, ceir eithriadau penodol ar gyfer data personol, a gwybodaeth a roddwyd yn gyfrinachol y byddai ei datgelu'n golygu tor hyder y gellid gweithredu yn ei gylch. Mae angen i gyflenwyr yr Arolygiaeth Gynllunio fod yn ymwybodol y caiff pob cais Rhyddid am wybodaeth a dderbynnir ar ôl 1 Ionawr 2005 ei ystyried fesul achos er mwyn penderfynu a gaiff y wybodaeth ei datgelu o dan y Ddeddf. Gall hyn olygu pwyso a mesur budd y cyhoedd mewn bod yn agored yn erbyn budd y cyhoedd mewn diogelu cyfrinachedd masnachol. Hyd nes y cawn gais am wybodaeth, nid yw'n bosibl i ni nodi'n bendant y caiff gwybodaeth benodol ei heithrio rhag cael ei datgelu.

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus sicrhau bod gwybodaeth ar gael drwy Gynllun Cyhoeddi ac, yn unol â'r Ddeddf, bod cwmpas y wybodaeth a gedwir gennym yn gynwysedig yn y cynllun cyhoeddi a gynhyrchir gan ein rhiant Adran, Cymunedau a Llywodraeth Leol. Mae'r cynllun yn nodi categorïau'r
wybodaeth i'w cyhoeddi ac yn esbonio sut i gael gafael ar y wybodaeth. Gellir cael manylion pellach ar ein gwefan, gweler Rhyddid Gwybodaeth.

Rydym yn argymell eich bod yn cael eich cyngor cyfreithiol eich hun ynglŷn ag
effaith y Ddeddf, ond mae mwy o wybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn:

http://www.foi.gov.uk/index.htm

http://www.ogc.gov.uk

 


Sut i edrych ar ddogfennau PDF

Gallwch edrych ar dogfennau PDF gan ddefnyddio Acrobat Reader gan Adobe. Gallwxh lawrlwytho Acrobat Reader am ddim drwy gwefan Adobe. Edrychwch ar Access Adobe a am wybodaeth ar sut y gall bobl a anableddau gweledol gael y gorau or meddalwedd hon.

Llawrlwytho Acrobat Reader


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English