Cwestiwn 1415VB Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yr Arolygwyr sy’n penderfynu ar y rhan fwyaf o apeliadau, ond
bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu ar ganran fechan ohonynt,
fel arfer oherwydd bod y datblygiad yn fawr neu’n ddadleuol. Nodir
y polisi ar gyfer “adfer” apeliadau i’w penderfynu gan
Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr ymateb i Gwestiwn 1415VB Cynulliad
Cymru, a atebwyd ar 12 Hydref 1999.
Glyn Davies: Gofyn i Ysgrifennydd y Cynulliad dros Lywodraeth
Leol a’r Amgylchedd. Beth yw polisi’r Cynulliad Cenedlaethol
tuag at alw ceisiadau cynllunio i mewn? (WAQ1415VB).
Peter Law: Ein polisi yw peidio ag ymyrryd ag awdurdodaeth
awdurdodau cynllunio lleol oni fydd yn angenrheidiol gwneud hynny. Awdurdodau
Cynllunio Lleol sydd â chyfrifoldeb dros reoli cynllunio o ddydd
i ddydd yn eu hardaloedd a dylent fod yn rhydd i gyflawni’r dyletswyddau
hynny mewn modd cyfrifol.
O bryd i’w gilydd, bydd yn briodol i’r Cynulliad wneud penderfyniad
yn hytrach na’r awdurdod cynllunio lleol. Defnyddir pwerau’r
Cynulliad i alw ceisiadau cynllunio i mewn er mwyn iddo benderfynu arnynt,
yn ddewisol. Ystyrir ceisiadau ar sail bob achos yn unigol ac yn gyffredinol,
dim ond lle mae cais yn codi materion cynllunio sy’n bwysig i fwy
na dim ond yr ardal leol y caiff ceisiadau eu galw i mewn i’w hystyried,
a fyddai’n cynnwys materion:
- sy’n gwrthdaro â pholisïau cenedlaethol;
- y gallent gael effeithiau helaeth y tu hwnt i’w hardal leol;
- y gallent ennyn dadlau sylweddol y tu hwnt i’r ardal leol;
- sy’n debygol o effeithio’n sylweddol ar safleoedd sydd
o ddiddordeb gwyddonol, cadwraeth natur neu hanesyddol;
- sy’n codi materion diogelwch cenedlaethol; neu
- sy’n codi materion cynllunio newydd.
Arolygwyr Cynllunio sy’n penderfynu ar y rhan fwyaf o apeliadau
cynllunio o dan bwerau a drosglwyddir yn statudol iddynt. Mae gan y Cynulliad
bwerau i adfer apeliadau cynllunio gan yr Arolygiaeth a gwneud penderfyniad
arnynt ei hun. Ein polisi yw defnyddio’r pwerau hynny lle bo’n
briodol gwneud hynny yn unig. Mae adfer apeliadau yn seiliedig ar y meini
prawf canlynol:
- datblygiad preswyl o fwy na 150 o dai neu ar fwy na 6 hectar o dir;
- datblygiadau manwerthu dros 9,000 metr sgwâr;
- ceisiadau mawr i gloddio a gweithio mwynau;
- cynigion ar gyfer datblygiadau mawr y gallent gael effeithiau helaeth
y tu hwnt i’w hardal leol;
- cynigion sy’n ennyn dadlau sylweddol y tu hwnt i’w hardal
leol;
- cynigion sy’n codi materion cynllunio newydd;
- cynigion sy’n ennyn trafferthion cyfreithiol sylweddol;
- cynigion y mae un o Adrannau’r Llywodraeth wedi’u gwrthwynebu;
neu
- achosion y gellir ond gwneud penderfyniad arnynt ar y cyd ag achos
nad oes gan Arolygydd awdurdodaeth drosto.
|