Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

3 Pwy all apelio?

3.1 Dim ond y person, neu’r busnes, sy’n gwneud cais am ganiatâd i
arddangos hysbyseb a all apelio yn erbyn penderfyniad y cyngor. Os
bydd cyngor yn rhoi rhybudd dirwyn i ben, dim ond y rhai sy’n cael copi
a all apelio. Galwn ‘yr apelydd’ ar y person sy’n gwneud yr apêl.

4 Sut i wneud apêl

4.1 Byddwch yn gwneud eich cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i’r
Prif Ysgrifennydd Gwladol yn Lloegr. Penderfynir ar y mwyafrif o
apeliadau gan Arolygwyr arbenigol yn yr Arolygiaeth Gynllunio.

4.2 Dylech ddefnyddio ein ffurflenni ar gyfer apeliadau hysbysebu.

4.3 Os yw safle’r apêl yng Nghymru cysylltwch â’n swyddfa yng
Nghaerdydd (029 2082 3866) i gael ffurflen. Os yw safle’r apêl yn
Lloegr cysylltwch â’n Huned Cymorth Cwsmeriaid (0117 372 6372) i
gael ffurflen. Mae ffurflenni ar gael hefyd o wefan yr Arolygiaeth
Gynllunio www.planning-inspectorate.gsi.gov.uk.

4.4 Cewch gyngor ar sut i lenwi’r ffurflen apelio yn Atodiad 1 yng nghefn y
daflen hon.

5 Faint o amser sydd gennyf i apelio?

5.1 Y terfynau amser ar gyfer anfon eich apêl i ni yw:

  • o fewn wyth wythnos i’r dyddiad y derbyniwyd penderfyniad y
    cyngor gennych;
  • os na phenderfynodd y cyngor ar eich cais, o fewn wyth wythnos ar ôl
    i’r cyfnod ar gyfer penderfynu ar y cais ddod i ben, neu unrhyw
    gyfnod estynedig y gallwch fod wedi cytuno arno yn ysgrifenedig;
    neu
  • os derbyniwyd copi o hysbysiad dirwyn i ben gennych, mae’n rhaid
    i chi apelio cyn y dyddiad a roddwyd yn yr hysbysiad yn dweud
    wrthych pryd y daw i rym.

5.2 Oni fydd gennych resymau da dros anfon eich apêl ar ôl y terfyn amser,
ni fyddwn fel arfer yn derbyn apêl sy’n hwyr.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English