Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

8 Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad

8.1 Mae gwrandawiadau yn caniatáu i chi a’r cyngor gyfnewid safbwyntiau
a thrafod eich apêl. Byddwn yn siarad â chi a’r cyngor i nodi dyddiad
addas ar gyfer gwrandawiad. Disgwyliwn i chi a’r cyngor dderbyn
unrhyw ddyddiad rhesymol a gynigiwn oni fydd rhesymau eithriadol
pam na allwch wneud hynny.

8.2 Cyn y gwrandawiad dylai’r cyngor anfon copi o’i ddatganiad atom yn
ogystal ag atoch chi. Gallwch wneud sylwadau ar ei ddatganiad yn
ysgrifenedig. Fel arall byddwn yn ystyried mai’r rhesymau a roddwyd yn
eich ffurflen apelio yw’r sail i’ch achos at ddibenion y drafodaeth.

8.3 Cynhelir gwrandawiadau fel arfer mewn swyddfeydd cyngor. Mewn rhai
achosion fe’u cynhelir yn agos at safle’r apêl er enghraifft neuadd
bentref neu ganolfan gymunedol. Maent yn dechrau fel arfer am 10 am.
Mae’r mwyafrif yn para tua dwy awr.

8.4 Mae ein Harolygydd yn arwain y drafodaeth ac yn gwahodd y bobl sy’n
cymryd rhan i gyflwyno eu pwyntiau. Gwneir hyn yn drefnus, ond yn anffurfiol, heb yr angen am groesholi neb nac am gynrychiolaeth gyfreithiol. Fel arfer nid oes angen i chi gael person proffesiynol i’ch cynrychioli.

8.5 Mae gwrandawiad fel arfer yn dilyn y patrwm a ddangosir isod

  • Gan agor y gwrandawiad, bydd ein Harolygydd yn nodi diben yr apêl
    ac yn esbonio trefn y gwrandawiad.
  • Gofynnir i chi gyflwyno eich achos. Efallai y bydd y cyngor yn gofyn
    cwestiynau i chi wedyn am eich cynigion.
  • Gofynnir i’r cyngor gyflwyno ei achos, a fydd yn seiliedig ar ei
    ddatganiad. Gallwch ofyn cwestiynau i’r cyngor wedyn os oes angen i
    chi wneud hynny.
  • Yn seiliedig ar yr hyn yr ydych wedi’i glywed, cewch chi’r cyfle
    wedyn i grynhoi eich dadl.
  • Efallai y bydd naill ai chi neu’r cyngor o’r farn bod arian wedi’i
    wastraffu gan ymddygiad afresymol y llall yn ystod yr apêl. Dyma
    pryd, cyn i’r gwrandawiad ddod i ben, y dylid gwneud cais i’n
    Harolygydd am gostau i gael unrhyw arian a wastraffwyd yn ôl.

Bydd ein Harolygydd yn ymweld â’r safle cyn y gwrandawiad. Gallwch
chi neu’r cyngor ofyn am gael ymweld â’r safle eto gyda’n Harolygydd.
Dim ond os ydych chi a’r cyngor yn gallu mynd gyda’ch gilydd y bydd
hyn yn digwydd. Mewn rhai achosion, bydd ein Harolygydd yn
awgrymu y gellid trafod rhai materion ar y safle. Bydd yr ymweliad yn
fodd i chi dynnu sylw at nodweddion ar y cynnig a’r safle.

Pobl anabl

Rydym am i bob gwrandawiad gael ei gynnal mewn adeiladau sy’n
darparu cyfleusterau priodol ar gyfer pobl anabl. Fel arfer mae’r cyngor
yn dewis ac yn darparu’r adeilad ac rydym wedi gofyn i gynghorau roi
sylw penodol i anghenion pobl anabl. Os ydych yn anabl neu os bydd
unrhyw un y gwyddoch ei fod am fynd i’r gwrandawiad yn anabl,
cysylltwch â’r cyngor i gadarnhau y gall wneud trefniadau priodol megis
lleoedd parcio, mynediad, trefniadau eistedd ac ati.

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English