Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

9 Tystiolaeth fideo a sain

Ni allwn dderbyn tystiolaeth fideo na sain ar gyfer apeliadau yr ymdrinnir â
hwy trwy gyfnewid gwybodaeth yn ysgrifenedig, am na allwn fod yn sicr y
bydd offer addas i chwarae’r dystiolaeth gan bawb sy’n ymwneud â’r apêl, na
bod yr un copïau wedi’u hanfon at bawb. Gallwch anfon crynodeb
ysgrifenedig o gynnwys y dystiolaeth fideo neu sain, gan gynnwys
ffotograffau, atom ni ac i’r ACLl gyda dogfennau eich apêl

Mewn gwrandawiad, bydd yr Arolygydd yn penderfynu a ddylid ystyried
unrhyw dystiolaeth fideo neu sain. Bydd yn eich hysbysu o’i benderfyniad/
phenderfyniad pan fydd y gwrandawiad yn agor. Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r
ACLl i weld a oes ganddo offer addas i’w defnyddio yn y gwrandawiad, neu a
fydd yn fodlon i chi ddefnyddio eich offer eich hun.

Rheoleiddio tystiolaeth wedi’i recordio
Rheolir tystiolaeth wedi’i recordio (tystiolaeth fideo, sain neu dystiolaeth arall
a recordiwyd) gan ddeddfwriaeth. Mae’n rhaid sicrhau bod unrhyw dystiolaeth
wedi’i recordio a anfonir atom wedi’i chael yn gyfreithlon.

Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (‘RIPA’)
Nid yw RIPA yn gwahardd unigolion rhag recordio tystiolaeth ar yr amod bod
y recordiad at eu defnydd hwy eu hunain.

Gwaherddir recordio tystiolaeth os rhoddir y dystiolaeth i berson neu sefydliad
arall a, phan fo angen, os na roddodd y rhai dan sylw ganiatâd iddi gael ei
defnyddio nac i’r deunydd gael ei recordio. Mae’n rhaid i’r rhai dan sylw gael
y cyfle hefyd i gadarnhau bod y recordiad yn gywir. Os na roddir iddynt y
cyfle i wneud hynny, ni fyddwn yn ei dderbyn.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English