Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

12 Tynnu eich apêl yn ôl

12.1 Gallwch dynnu eich apêl yn ôl ar unrhyw adeg cyn i ni roi ein
penderfyniad. Efallai y byddwch am wneud hynny os byddwch chi a’r
ACLl yn cytuno ar gynnig gwahanol, er enghraifft, neu os byddwch yn
sylweddoli y bydd cais newydd yn eich galluogi i ddod i gytundeb heb
orfod cynnal apêl.

12.2 Os penderfynwch eich bod am dynnu eich apêl yn ôl, dylech ffonio eich
swyddog achos ar unwaith ac wedyn ysgrifennu i gadarnhau eich bod yn
tynnu eich apêl yn ôl, gan roi cyfeirnod yr apêl. Dylech hysbysu’r ACLl
ar unwaith hefyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os byddwn wedi trefnu
i wrandawiad gael ei gynnal. Os byddwch yn tynnu eich apêl yn ôl yn
afresymol ar ôl i ni ysgrifennu atoch i’ch hysbysu o ddyddiad y
gwrandawiad, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau’r bobl eraill sy’n
cymryd rhan yn y gwrandawiad. Ceir rhagor o wybodaeth am gostau yn
Adran 15.

13 Penderfyniad yr Arolygydd

13.1 Bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu o’i benderfyniad/
phenderfyniad. Fel arfer bydd y penderfyniad yn:

  • rhoi disgrifiad byr o’r cynigion;
  • nodi’r materion pwysig;
  • esbonio pam y daeth yr Arolygydd i’r penderfyniad.

Byddwn yn anfon copi o’r llythyr penderfyniad atoch chi, y cyngor ac unrhyw
un arall a ofynnodd am gopi. Rydym yn ceisio rhoi penderfyniadau o fewn tair
wythnos i’r dyddiad y cynhaliwyd y gwrandawiad.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English