Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

14 Mynegi eich barn am gynnig hysbysebu rhywun arall

Efallai y byddwch am wneud sylwadau am apêl a wnaed gan rywun arall. Er
enghraifft, efallai eich bod yn byw gerllaw, neu efallai eich bod yn aelod o
gymdeithas trigolion neu gr?p amwynder lleol. Mae’r paragraffau isod yn
esbonio sut i fynegi eich barn.

Cynrychioliadau ysgrifenedig

Bydd y cyngor yn anfon atom ni, yn ogystal ag at y person sy’n apelio, gopïau
o unrhyw farn a fynegwyd pan oedd y cyngor yn ystyried y cais. Bydd y
cyngor yn ysgrifennu at unrhyw un â diddordeb, i’w hysbysu bod apêl wedi’i
gwneud ac i’w hysbysu o’r terfyn amser ar gyfer anfon sylwadau atom.

Byddwn yn anfon copïau o’ch sylwadau at y person sy’n apelio ac i’r cyngor.
Os na fyddwn yn derbyn eich llythyr o fewn y terfyn amser, efallai na fyddwn
yn ei ystyried. Dywedwch wrthym os hoffech gael copi o’r llythyr
penderfyniad.

Os ydych am weld yr hyn a ddywedwyd gan y person sy’n apelio a’r cyngor,
ewch i swyddfeydd y cyngor

Gwrandawiadau

Dylech hysbysu’r cyngor os ydych am fynd i wrandawiad. Bydd y cyngor yn
hysbysu ein Harolygydd o’ch diddordeb. Bydd ein Harolygydd yn penderfynu
a allwch siarad yn y gwrandawiad a phryd y gallwch wneud hynny.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English