Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion
15 Costau
Prif Bartïon
Fel arfer byddwch chi a’r cyngor yn talu am eich costau eich hunain
mewn
apêl. Dim ond os gallwch ddangos i’r cyngor ymddwyn yn afresymol
gan
arwain at gost ddiangen y gallwch hawlio costau. Gall y cyngor hawlio
costau
hefyd yn eich erbyn am resymau tebyg. Ar hyn o bryd ni allwch hawlio costau
mewn achosion trwy gynrychioliadau ysgrifenedig, dim ond gwrandawiadau.
Mewn gwrandawiad gallwch chi neu’r cyngor ofyn i’r llall dalu
costau. Bydd
ein Harolygydd yn ystyried cais am gostau dim ond os gwneir y cais hwnnw
cyn i’r gwrandawiad ddod i ben ac y gall y person sy’n gwneud
y cais ddangos
i’r ochr arall ymddwyn yn afresymol gan achosi iddo fynd i gost
yn ddiangen.
Partïon eraill â diddordeb
Yn gyffredinol, anaml y bydd partïon, ac eithrio’r apelydd
a’r cyngor, sy’n
ymddangos yn y gwrandawiad, yn gysylltiedig â cheisiadau am gostau.
Os
bydd trydydd partïon yn dewis cymryd rhan mewn achosion apelio, maent
yn
gwneud hynny ar eu traul eu hunain.
Rydym yn cyhoeddi llyfryn am ddim sy’n rhoi rhagor o wybodaeth
am hawlio
costau. Cewch gopi o’r llyfryn hwn o’r cyfeiriad a ddangosir
ar y clawr cefn,
neu o’r wefan.
Canllawiau polisi a’r gyfraith yngl?n ag arddangos hysbysebion
awyr agored
Os ydych yn gwneud apêl, neu os ydych am wneud sylwadau ar apêl
a wnaed
gan rywun arall, efallai y byddwch am ddarllen rheoliadau a chanllawiau
polisi
cyhoeddedig yngl?n ag arddangos hysbysebion awyr agored. Cewch fanylion
am y rhain yr Atodiad 1. Ni allwch gael copïau gennym, ond gallwch
eu prynu
o’r Llyfrfa. Fel arfer gallwch weld copi mewn swyddfeydd cyngor
a
llyfrgelloedd cyhoeddus mwy o faint.
|