Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

16 Cwynion a heriau

Cwynion amdanom ni

Os oes gennych unrhyw gwynion neu gwestiynau am y penderfyniad, neu’r
modd yr ydym wedi ymdrin â’r apêl, ysgrifennwch i:

Ar gyfer safleoedd yng Nghymru

Y Swyddog Cwynion
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3866
Ffacs: 029 2082 5150

e.bost: wales@pins.gsi.gov.uk

 

Ar gyfer safleoedd yn Lloegr

The Planning Inspectorate
Quality Assurance Unit
4/09 Kite Wing
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay
Bristol
BS1 6PN

FFôn: 0117 372 8252
Ffacs: 0117 372 8139

e.bost: complaints@pins.gsi.gov.uk

Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn a gallwch ddisgwyl ateb llawn o fewn tair
wythnos. Fodd bynnag, ni allwn ailystyried apêl os byddwn wedi rhoi
penderfyniad arni eisoes. Dim ond os byddwch yn herio’r penderfyniad yn
llwyddiannus yn yr Uchel Lys y bydd hyn yn digwydd.

Yr Uchel Lys

Yr unig ffordd y gallwch apelio yn erbyn ein penderfyniad, am resymau
cyfreithiol, yw yn yr Uchel Lys. Mae’n rhaid i chi apelio wedyn i’r Uchel Lys.
Er mwyn i’ch her lwyddo byddai’n rhaid i chi ddangos:

? bod ein swyddog,, neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru, neu yn Lloegr
yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi mynd y tu hwnt i’w pwerau;
? ein bod wedi diystyru eich hawliau o dan gyfraith gwlad;
? na ddilynwyd y gweithdrefnau priodol gennym a bod eich buddiannau
o ganlyniad wedi’u niweidio.

Os bydd eich her yn llwyddiannus, bydd yr Uchel Lys yn gwrthdroi ein
penderfyniad gwreiddiol ar yr apêl ac yn dychwelyd yr achos i ni. Byddwn yn
edrych ar yr apêl eto. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddwn yn
diddymu ein penderfyniad gwreiddiol. Efallai y deuwn i’r un casgliad ond am
resymau gwahanol neu resymau manylach.

Os ydych yn mynd i herio ein penderfyniad, rhaid i chi wneud cais i’r Uchel
Lys o fewn chwe wythnos i ddyddiad ein llythyr penderfyniad. Byddwn yn
anfon taflen atoch yn esbonio eich hawl i herio gyda’r llythyr yn nodi ein
penderfyniad ar yr apêl.

Y Comisiynydd Seneddol dros Weinyddu (yr Ombwdsmon)

Yn Lloegr, os ydych o’r farn nad ydym wedi’ch trin yn deg, gallwch ofyn i’r
Ombwdsmon ymchwilio i’r mater. Ni allwch gysylltu â’r Ombwdsmon yn
uniongyrchol – mae’n rhaid i AS wneud hynny ar eich rhan. Nid oes rhaid i
chi ddewis eich AS lleol ond fel arfer dyma fydd y person hawsaf i ofyn iddo.
Bydd eich llyfrgell leol yn gallu rhoi enw a chyfeiriad eich AS i chi. Nid oes
gan yr Ombwdsmon unrhyw bwer i amau teilyngdod eich apêl nac i newid y
penderfyniad. Nid yw ond yn rhoi sylw i’r modd yr ydym yn ymdrin ag
apeliadau. Fel arfer bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl eich bod wedi gwneud
cwyn i ni yn gyntaf cyn iddo/iddi ymchwilio i’ch achos.

Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru

Yng Nghymru, os ydych o’r farn nad ydym wedi’ch trin yn deg, gallwch ofyn
i’r Ombwdsmon ymchwilio i’r mater. Ni allwch gysylltu ag ef neu â hi yn
uniongyrchol, ond bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl eich bod wedi gwneud
cwyn i ni yn gyntaf cyn iddo neu iddi ymchwilio i’ch achos.

Cyngor y Tribiwynlysoedd

Os credwch fod rhywbeth o’i le ar y weithdrefn sylfaenol a ddefnyddiwyd
gennym i brosesu eich apêl, gallwch gwyno wrth Gyngor y Tribiwnlysoedd yn:

22 Kingsway
London
WC2B 6LE

Bydd y cyngor yn ystyried eich cwyn os cred ei bod yn fater iddo ei ystyried.
Yn debyg i’r Ombwdsmon, nid yw’n ystyried teilyngdod eich apêl ac nid oes
ganddo unrhyw bwer i newid y penderfyniad.

Ombwdsmon Llywodraeth Leol

Os oes gennych gwyn ynglyn â’r modd y mae’r ACLl wedi ymdrin â’ch cais
cynllunio, gallwch, mewn rhai achosion, ofyn i Ombwdsmon Llywodraeth
Leol ymchwilio i’r mater. Fodd bynnag, ni all Ombwdsmon Llywodraeth Leol
ymchwilio i gwyn ynghylch penderfyniad cynllunio dim ond am nad ydych chi
a’r ACLl yn fodlon arno ac nid oes gan yr Ombwdsmon unrhyw b?er i newid
y penderfyniad. Gallwch gael llyfryn yn esbonio sut i wneud cwyn drwy
ysgrifennu i swyddfa’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol priodol.

Mae un Ombwdsmon Llywodraeth Leol yng Nghymru a thri yn Lloegr. Mae
pob un ohonynt yn ymdrin â chwynion o wahanol rannau o’r wlad.

Ar gyfer Cymru:

Ombwdsmon Llywodraeth Leol
T? Derwen
Court Road
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1BN
Ffôn 01656 661325

Ar gyfer Llundain Fwyaf:

Local Government Ombudsman
21 Queen Annes’s Gate
London
SW1H 9BU

Ffôn: 0207 915 3210
Ffacs: 0207 233 0396

Ar gyfer Surrey, Caint, Sussex, East Anglia, de-orllewin, gorllewin a de Lloegr
a’r rhan fwyaf o ganolbarth Lloegr:

Local Government Ombudsman
The Oaks No 2
Westwood Way
Westwood Business Park
Coventry
CV4 8JB

Ffôn: 02476 695 999
Ffacs: 02476 695 902

Ar gyfer Birmingham, Swydd Stafford, Swydd Amwythig, Swydd Gaer, Swydd
Derby, Swydd Nottingham, Swydd Lincoln a gogledd Lloegr:

Local Government Ombudsman
Beverley House
17 Shipton Road
York
YO30 5FZ

Ffôn: 01904 663 200

Rydym hefyd yn ymdrin â mathau eraill o apeliadau.

Os ydych yn apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi, dylech gysylltu â’r canlynol:

Yng Nghymru

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3866
Ffacs: 029 2082 5150

 

Yn Lloegr

Enforcement Appeals
The Planning Inspectorate
Room 3/10 Kite Wing
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay
Bristol
BS1 6PN

Ffôn: 0117 372 8075
Ffacs: 0117 372 8782


Os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod caniatâd cynllunio,
dylech gysylltu â’r canlynol:

Yng Nghymru

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3866
Ffacs: 029 2082 5150

Yn Lloegr

Planning Appeals
The Planning Inspectorate
Room 3/15 EagleWing
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay
Bristol
BS1 6PN

Ffôn: 0117 372 8927

 

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English