Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Atodiad 1

A Sut i lenwi ffurflenni apelio

Llenwch yr holl fanylion am eich apêl sydd eu hangen ar y 3 set o’r ffurflen
apelio a ddarparwyd. Wrth lenwi’r ffurflenni hyn rhaid i chi sicrhau y nodir yr
un manylion ar bob un o’r ffurflenni.

  • Pan fyddwch wedi llenwi’r ffurflen, wedi edrych drosti a’i llofnodi,
    anfonwch:
    • Un copi i’r Arolygiaeth Gynllunio ynghyd â’r dogfennau a restrir yn I;
    • Un copi i’r cyngor yr ydych yn apelio yn erbyn ei benderfyniad;
    • Cadwch un copi i chi allu cyfeirio ato.
  • Os dymunwch, gallwch amgáu ffotograffau, yn dangos golwg safle’r
    apêl a’r ardal o’i amgylch ar hyn o bryd gyda’ch ffurflen apelio. Os
    anfonwch ffotograffau, dylech hefyd anfon yr un set i’r Cyngor.

B Rhagor o wybodaeth am reoli hysbysebion

Gallwch brynu copïau o bob un o’r dogfennau hyn o unrhyw siop lyfrau o
eiddo’r Llyfrfa, neu efallai y byddwch yn gallu eu gweld yn swyddfeydd y
cyngor neu eich llyfrgell leol.

Y gyfraith

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992
Offeryn Statudol 1992 Rhif 666

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) (Diwygio) 1994
Offeryn Statudol 1994 Rhif 2351

Canllawiau:

Yng Nghymru

Cylchlythyr 14/92 y Swyddfa Gymreig
Cylchlythyr 70/94 y Swyddfa Gymreig
Canllawiau Cynllunio Cymru Nodyn Cyngor Technegol (TAN) (Cymru) 7 –
Rheoli Hysbysebion Awyr Agored

Hysbysebion ac Arwyddion Awyr Agored – Canllaw i Hysbysebwyr (Ar gael
am ddim gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae copïau hefyd ar gael o’r wefan
www.planning-inspectorate.gov.uk

Yn Lloegr

Cylchlythyr DOE 5/92
Cylchlythyr DOE 15/94
DOE PPG 19 Canllaw Polisi Cynllunio ‘Outdoor Advertisement Control’
Rhagor o wybodaeth
Os oes angen rhagor o wybodaeth am y broses apelio arnoch, ffoniwch ein
swyddfeydd gan ddefnyddio’r rhifau ar y clawr cefn. Gallwch adael neges
wedi’i recordio y tu allan i oriau swyddfa arferol.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English