Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Atodiad 2 - Diogelu Data a Phreifatrwydd yn yr Arolygiaeth Gynllunio

Cyflwyniad

O dan Ddeddf Diogelu Data 1998 mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i’ch
hysbysu am unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych a’i diogelu.
Wrth ystyried apêl hysbysebu, mae’r Arolygydd (neu Gynulliad Cenedlaethol
Cymru/yr Ysgrifennydd Gwladol) yn derbyn amrywiaeth o wybodaeth
bersonol. Daw’r wybodaeth hon o nifer o ffynonellau, gan gynnwys:

  • Y cais gwreiddiol am ganiatâd i arddangos hysbyseb ynghyd ag
    unrhyw ddogfennau yn cefnogi neu’n gwrthwynebu’r cais hwnnw;
  • Y ffurflen apelio ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill yn cefnogi
    neu’n gwrthwynebu’r apêl.

Yn unol â rhwymedigaethau statudol presennol, bydd y rhan fwyaf o’r
ddogfennaeth a dderbynnir ar gael i’r cyhoedd. Serch hynny, mae’r
Arolygiaeth Gynllunio, fel rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru/Swyddfa’r
Dirprwy Brif Weinidog yn cydnabod pwysigrwydd preifatrwydd unigolion.
Mae’r bennod hon yn nodi pa wybodaeth a gesglir gennym a sut y’i defnyddir.

Diogelu Data

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi rhoi gweithdrefnau ar waith i sicrhau ei bod
yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998 wrth ymdrin â’ch gwybodaeth
bersonol.

Yn arbennig:

  • dim ond er mwyn ymdrin â’r apêl hysbysebu berthnasol a’i hystyried
    y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol;
  • dim ond am gyhyd ag sy’n rhesymol angenrheidiol y byddwn yn
    cadw eich gwybodaeth bersonol. Fel arfer, ar gyfer apeliadau
    cynllunio wedi’u cwblhau, 12 mis yw’r cyfnod hwn er y byddwn yn
    cadw copi o benderfyniad yr Arolygydd am gyfnod amhenodol.
    Efallai y bydd gwybodaeth bersonol yn rhan o benderfyniad yr
    Arolygydd.

Pwy all weld eich gwybodaeth bersonol?

Bydd papurau’r apêl ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd y cyngor a gall
unrhyw un edrych arnynt.

Mae hawl gyfreithiol gan unrhyw un sydd â hawl i gael ei hysbysu am y
penderfyniad mewn achos ymchwiliad i wneud cais i archwilio’r dogfennau, y
ffotograffau a’r cynlluniau a restrir o fewn 6 wythnos i ddyddiad y
penderfyniad. Fel arfer ni wrthodir ceisiadau eraill i weld dogfennau.
Yn ogystal, pan fydd y Porth Cynllunio electronig ar gael yn ddiweddarach
eleni, rhoddir y rhan fwyaf o’r wybodaeth bersonol a dderbynnir ar wefan
Gwaith Achos [www.planningportal.gov.uk] a bydd unrhyw drydydd parti
ledled y byd, gan gynnwys unigolion neu sefydliadau, nad oes ganddynt
unrhyw ddiddordeb uniongyrchol yn yr apêl benodol, yn gallu ei gweld.

Pa wybodaeth a gesglir gennym?

Wrth ymdrin ag apêl gynllunio gallem dderbyn gwybodaeth bersonol
amdanoch gan nifer o bartïon, gan gynnwys:

  • awdurdodau cynllunio lleol;
  • chi;
  • partïon eraill â diddordeb yn yr apêl.

Mae’r wybodaeth a dderbynnir gennym yn amrywio, ond mae’n cynnwys yn
aml:

  • manylion eich enw, eich cyfeiriad a’ch galwedigaeth;
  • gwybodaeth yn ymwneud â’ch iechyd;
  • gwybodaeth yn ymwneud â’ch barn neu’ch bwriad mewn perthynas â
    chais/apêl hysbysebu.

Pa gamau y dylech eu cymryd?

  • Dim ond gwybodaeth bersonol yr ydych yn fodlon iddi fod ar gael i’r
    cyhoedd y dylech ei darparu;

Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol am drydydd parti arall (gan
gynnwys aelodau o’r teulu) oni fyddwch wedi hysbysu’r unigolyn dan sylw,
a’i fod yn fodlon i chi ei hanfon.

Y Rheolwr Data

Swyddfa’r Dirprwy Weinidog yw’r rheolwr data (y sefydliad sy’n gyfrifol am
ymdrin â gwybodaeth bersonol).

Eich hawliau i weld Data Personol

Mae’n rhaid i ni roi copi darllenadwy o’r data personol a gedwir amdanoch i
chi o fewn 40 niwrnod. Codir tâl statudol o £10. Bydd angen tystiolaeth neu
brawf adnabod. Mae cadw data cywir yn bwysig er ein lles ni a’ch lles chi. Os
bydd y data a gedwir gennym yn anghywir mewn unrhyw ffordd, yna gallwch
ofyn am i’r data:

  • gael ei dileu
  • cael ei chywiro neu’i diwygio
  • cael ei chwblhau yn ddi-dâl lle y bo hynny’n briodol.

Ar gyfer unrhyw ymholiad neu bryder ynghylch ein polisi preifatrwydd, neu i
ofyn am gael gweld am eich data personol, cysylltwch â’n Rheolwr Data:

Alastair Grant
Data Manager
The Planning Inspectorate
Room 316 Eagle Wing
Temple Quay House
2, The Square
Bristol, BS1 6PN

Ffôn : 0117 372 8922

Ebost: alastair.grant@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
Ceir gwybodaeth gysylltiedig am ein polisi Preifatrwydd ar ein gwefan yn
www.planning-inspectorate.gov.uk yn yr adran wedi’i marcio “Datganiad
Preifatrwydd”.

Anghydfod

Ein nod yw sicrhau ein bod yn datrys unrhyw faterion yn foddhaol, fodd
bynnag os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb gallwch gysylltu â:

The Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Switsfwrdd: 01625 545 700
Ffacs: 01625 524 510
DX: 20819 Wilmslow

Gwefan: www.dataprotection.gov.uk
E-bost: mail@dataprotection.gov.uk

Dylech ddyfynnu Rhif Cofrestru Hysbysiad Deddf Diogelu Data’r Arolygiaeth
Gynllunio– E311018.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English