Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau hysbysebion
Atodiad 3
Côd Ymddygiad Arolygwyr
Er bod yr egwyddorion hyn wedi’u hanelu yn bennaf at Arolygwyr
Cynllunio,
maent hefyd yn berthnasol i bawb sy’n gwneud penderfyniadau yn yr
Arolygiaeth Gynllunio.
Mae’r cod hwn yn seiliedig ar Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus a
nodwyd
gan yr Arglwydd Nolan fel cadeirydd y pwyllgor ar safonau mewn bywyd
cyhoeddus (sef anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrychedd, atebolrwydd, bod
yn
agored, gonestrwydd a rhoi arweiniad) yn ogystal ag “egwyddorion
Franks”,
sef bod yn agored, yn deg ac yn ddiduedd. Mae’r egwyddorion a nodir
isod yn
ychwanegol at y dyletswyddau a’r cyfrifoldebau a osodir ar Arolygwyr
o dan
God y Gwasanaeth Sifil.
- Mae Arolygwyr yn gwneud eu penderfyniadau a’u hargymhellion
er
budd y cyhoedd.
- Nid yw Arolygwyr yn barnu achos cyn i’r dystiolaeth gael ei
hystyried.
- Nid yw Arolygwyr yn ymwneud ag achosion lle mae ganddynt fuddiant
ariannol neu bersonol a allai greu’r argraff eu bod yn bleidiol.
- Ni fydd ystyriaethau amherthnasol na dylanwadau o’r tu allan
yn
dylanwadu ar Arolygwyr pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau a’u
hargymhellion.
- Mae Arolygwyr yn gwrthod pob rhodd, lletygarwch a buddiannau eraill
a
gynigir iddynt gan bobl â buddiant mewn achos, ar wahân
i’r rhai sydd o
fawr ddim gwerth.
- Mae Arolygwyr yn ymdrin ag achosion mor gyflym â phosibl.
- Mae Arolygwyr yn trin pob person sy’n ymddangos ger eu bron
gydag
urddas a pharch.
- Nid yw Arolygwyr yn gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail hil, rhyw,
cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, anabledd, oedran, ac
ati.
- Mae Arolygwyr yn osgoi oedi diangen wrth ddod i’w penderfyniadau
a’u
hargymhellion.
- Mae Arolygwyr yn rhoi rhesymau dros eu penderfyniadau a’u
hargymhellion.
- Mae Arolygwyr yn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth broffesiynol a’r
sgiliau diweddaraf.
- Mae Arolygwyr yn gyfrifol am eu penderfyniadau a’u hargymhellion.
Cyfeiriadau a rhifau ffôn
Swyddfa Caerdydd (ar gyfer Cymru)
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 029 2082 3866 |
Swyddfa Bryste (ar gyfer Lloegr)
PINSAA SAC
The Planning Inspectorate
Room 3/15 Eagle Wing
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay
Bristol
BS1 6PN
Ffôn: 0117 3728577 |
|