Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Dyfarnu Costau mewn Apeliadau Cynllunio

Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Cyflwyniad

Paratowyd y pamffledyn hwn gan yr Adran dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Leol a’r Rhanbarthau (DLTR) a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n esbonio sut efallai y bydd angen i un parti mewn apêl dalu costau parti arall. Mae’n berthnasol os ydych yn apelio i Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog neu Gynlluniad Cenedlaethol Cymru, yn erbyn penderfyniad cynllunio a wnaed gan yr awdurdod cynllunio lleol, a chynhelir ymchwiliad neu wrandawiad cyhoeddus lleol i ystyried yr apêl. Efallai y bydd y cyngor o ddiddordeb hefyd i bobl eraill (a elwir yn drydydd partïon) sy’n cymryd rhan mewn achosion apêl.

Mae’r arweiniad a grynhoir yn y pamffledyn hwn yn berthnasol i ystod eang o achosion cynllunio. Rhoddir rhai enghreifftiau yn Cl.

Mae’r arweiniad hwn hefyd yn berthnasol i rai achosion na chynhelir ymchwiliad na gwrandawiad ar eu cyfer am fod yn well gan y partïon fynd ymlaen trwy gynrychioliadau ysgrifenedig - er enghraifft, apeliadau hysbysiad gorfodi. Mae hefyd yn berthnasol i achosion lle y mae’n rhaid canslo ymchwiliad (neu wrandawiad) am y dilëir yr apêl. Rhoddir manylion llawnach yn C2 a C6.

Fel arfer disgwylir i bartïon mewn apeliadau ac achosion eraill gwrdd â’u costau eu hunain. Ond os gwneir cais, gall yr Ysgrifennydd Gwladol neu’r Arolygydd Cynllunio ddyfarnu costau pan fydd un parti wedi ymddwyn yn `afresymol' gan achosi i barti arall fynd i gost ddiangen. Mae’r arweiniad hwn yn esbonio’n fyr sut y gall dyfarniad costau godi; y gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am gostau; a pha ystyriaethau y rhoddir sylw iddynt wrth benderfynu a ddylid dyfarnu costau.
Mae’r un ystyriaethau yn berthnasol p’un a wneir y penderfyniad apêl gan yr Ysgrifennydd Gwladol, neu gan Arolygydd Cynllunio y trosglwyddwyd yr apêl iddo er mwyn iddo benderfynu arni. Er hwylustod nid yw’r arweiniad hwn ond yn cyfeirio at benderfyniadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol (y dylid ei ddarllen fel y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer penderfyniadau a wnaed yng Nghymru).

Nodyn pwysig: Dim ond rhoi cyngor a wna’r arweiniad hwn ac nid oes ganddo unrhyw rym cyfreithiol. Fe’i bwriedir yn bennaf ar gyfer apelyddion nad oes ganddynt gynrychiolaeth broffesiynol. Nodir polisi’r Ysgrifennydd Gwladol ar ddyfarnu costau yn llawnach yng Nghylchlythyr 8/93 Adran yr Amgylchedd (Cylchlythyr 23/93 y Swyddfa Gymreig) ar Ddyfarnu Costau yr Aed iddynt mewn Achosion Cynllunio ac Achosion Eraill (Gan gynnwys Achosion yn ymwneud â Gorchmynion Prynu Gorfodol), a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 1993 ac sydd ar gael o siopau llyfrau Llyfrfa Ei Mawrhydi. Fe’ch cynghorir i ddarllen y Cylchlythyr hwnnw os ydych yn meddwl, ar ôl darllen y pamffledyn hwn, efallai y byddwch am wneud cais am eich costau, neu y gallwch fod mewn perygl y dyfernir costau yn eich erbyn.

Cysylltiadau perthnasol

Mae’r cysylltiadau isod yn agor eich porwr mewn ffenestr newydd.

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English