Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Dyfarnu Costau mewn Apeliadau Cynllunio

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

C2 Ym mha achosion y gallaf wneud cais am fy nghostau?

Gall yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu costau mewn llawer o achosion gwahanol - apeliadau a chategorïau eraill o achosion. Ceir arweiniad cynhwysfawr yng Nghylchlythyr 8/93 DOE (Cylchlythyr 23/93 y Swyddfa Gymreig), y cyfeiriwyd ato yn y cyflwyniad. Er hwylustod, mae’r pamffledyn hwn yn cyfeirio at `apeliadau' ac `apelyddion'.

Yr achosion mwyaf cyffredin yw apeliadau yn erbyn penderfyniad awdurdod cynllunio lleol i wrthod caniatâd cynllunio, a chyhoeddi hysbysiad gorfodi. Gellir dyfarnu costau hefyd mewn apeliadau caniatâd hysbysebu (pan fyddant yn mynd rhagddynt trwy wrandawiad) ac apeliadau eraill o dan y Deddfau Cynllunio, a hefyd mewn rhai achosion trwy ymchwiliad (ond nid gwrandawiad) o dan ddeddfwriaeth arall. Er enghraifft, gall yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu costau i’r partïon, neu yn eu herbyn, mewn achosion yn ymwneud â gorchmynion diwygio mapiau swyddogol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, lle y gwrandewir ar wrthwynebwyr mewn ymchwiliad. Ceir arweiniad sy’n cyfeirio’n benodol at yr achosion hyn ac achosion eraill yn ymwneud â hawliau tramwy yng Nghylchlythyr 2/93 DOE (Cylchlythyr 5/93 y Swyddfa Gymreig) ar Hawliau Tramwy Cyhoeddus. Bydd yr Adran yn gallu eich cynghori ynghylch unrhyw achos penodol.

Gellir dyfarnu costau hefyd mewn achosion yn ymwneud â gorchmynion prynu gorfodol (CPO), ond ar sail wahanol. Esbonnir hyn yn y llyfryn yn y gyfres `Prynu Gorfodol a Digolledu', yn dwyn y teitl 'Gweithdrefn Prynu Gorfodol'. Mae ar gael gan The Office of the Deputy Prime Minsiter, Free Literature, PO Box 236, Wetherby, West Yorkshire, LS23 7NB ffôn: 0870 1226236 neu yng Nghymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Isadran Gweinyddu Ffyrdd, Parc Cathays, Caerdydd, CF1 3NQ. Ceir datganiad llawnach yng Nghylchlythyr 8/93 DOE (Cylchlythyr 23/93 y Swyddfa Gymreig), y cyfeiriwyd ato uchod.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English