Dyfarnu Costau mewn Apeliadau CynllunioC3 A ellir dyfarnu costau dim ond os bydd fy apêl yn mynd rhagddi trwy ymchwiliad neu wrandawiad lleol cyhoeddus?Yn gyffredinol, gellir. Ni dderbynnir ceisiadau am gostau fel arfer pan fydd apeliadau cynllunio yn mynd rhagddynt trwy gynrychioliadau ysgrifenedig. Mae rhai eithriadau, yn arbennig apeliadau hysbysiad gorfodi ac apeliadau yn ymwneud â thystysgrifau datblygiad cyfreithlon, pan ellir dyfarnu costau’r achos er na chynhelir unrhyw ymchwiliad na gwrandawiad. Bydd yr Adran yn dweud wrthych chi os yw eich apêl yn y categori hwn. Gellir dyfarnu costau hefyd mewn apeliadau o dan y Deddfau Cynllunio, pan drefnwyd ymchwiliad neu wrandawiad, ond y mae’n rhaid ei ganslo yn hwyr o ganlyniad i ymddygiad `afresymol' gan yr apelydd neu’r awdurdod cynllunio lleol. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |