Dyfarnu Costau mewn Apeliadau CynllunioC6 Beth yw ymddygiad afresymol?Gellid ystyried bod ymddygiad a arweiniodd yn uniongyrchol at apêl ddiangen i’r Cynulliad Cenedlaethol yn afresymol. Er enghraifft, efallai na allai’r awdurdod cynllunio lleol gyflwyno tystiolaeth yn yr ymchwiliad i gefnogi pob un o’i resymau dros wrthod caniatâd cynllunio, neu dros osod amod ar unrhyw ganiatâd cynllunio a roddid. Neu gellid ystyried bod y modd y cynhaliodd parti ei ran o’r achos yn afresymol. Er enghraifft, oherwydd esgeulustra ar ran un parti, bu’n rhaid gohirio’r ymchwiliad, neu ei ymestyn yn ddiangen, neu ei ganslo, gan arwain at gost ddiangen. Gall canslo’r ymchwiliad neu’r gwrandawiad yn hwyr hefyd arwain at ddyfarniad costau os cafodd ei ganslo o ganlyniad i ymddygiad afresymol gan un o’r partïon. Enghreifftiau o hyn yw os bydd yr awdurdod cynllunio lleol yn dileu un o’i resymau dros wrthod caniatâd cynllunio, neu dros gyhoeddi hysbysiad gorfodi; neu mae’n ildio un o seiliau’r apêl unwaith y bydd dyddiad yr ymchwiliad (neu’r gwrandawiad) wedi’i bennu, heb reswm da; neu os bydd yr apelydd yn dileu’r apêl (neu sail yr apêl) ar ôl i ddyddiad yr ymchwiliad (neu’r gwrandawiad) gael ei bennu, ond ni all ddangos bod unrhyw newid o bwys wedi bod yn yr amgylchiadau ers i’r apêl gael ei gwneud yn gyntaf. Enghraifft arall yw os bydd yr apelydd yn methu mynychu ymchwiliad (neu wrandawiad), neu gael ei gynrychioli yno, heb reswm da. Rhoddir enghreifftiau eraill o ymddygiad afresymol a all gyfiawnhau dyfarnu costau yng Nghylchlythyr 8/93 DOE (Cylchlythyr 23/93 y Swyddfa Gymreig). |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |