Dyfarnu Costau mewn Apeliadau CynllunioC7 A ellid dyfarnu costau yn fy erbyn am fwrw ymlaen ag apêl mewn ymchwiliad neu wrandawiad nad oedd ganddi unrhyw obaith rhesymol o lwyddo?Gellid. Er enghraifft os gwrthododd y Cynulliad Cenedlaethol (neu Arolygydd) yn ddiweddar apêl am yr un datblygiad neu ddatblygiad tebyg iawn, ar yr un tir, nid oedd dim byd wedi newid ers hynny ac roedd yn amlwg nad oedd unrhyw obaith y byddai’r apêl newydd yn llwyddo. Neu gall yr apêl fod yn un y mae’n amlwg ei bod yn groes i bolisïau cynllunio cenedlaethol. Yn y cyfryw achos bydd gan yr awdurdod cynllunio lleol reswm cryfach dros geisio dyfarniad costau os gall ddangos iddo dynnu eich sylw at y ffeithiau perthnasol a’ch rhybuddio y byddai’n gwneud cais am ei gostau pe baech yn parhau â’ch apêl. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |