Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Dyfarnu Costau mewn Apeliadau Cynllunio

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

C8 A ellir dyfarnu costau yn fy erbyn os penderfynaf beidio â bwrw ymlaen â'm hapêl?

Gellir. Unwaith y byddwch wedi'ch hysbysu'n ffurfiol o ddyddiad yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad, rydych mewn perygl os ydych yn achosi iddo gael ei ganslo heb reswm da. Gweler C6 uchod. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried yn ofalus y rhesymau dros eich penderfyniad, y'ch gwahoddir i'w nodi yn ysgrifenedig. Nid yw'n debyg y dyfernir unrhyw gostau os gallwch ddangos bod rheswm da dros ddileu eich apêl pan wnaethoch hynny - er enghraifft, os rhoddodd yr awdurdod cynllunio lleol ganiatâd cynllunio, yn ddarostyngedig i amodau ai peidio, am yr un datblygiad; neu os bu rhyw newid perthnasol arall o bwys ers i chi apelio. Os penderfynwch ddileu eich apêl, neu unrhyw un o'r rhesymau dros yr apêl (er enghraifft, mewn apêl hysbysiad gorfodi), dylech hysbysu'r Adran ar unwaith, trwy anfon llythyr neu ffacs at y Swyddog Achos, gan ddyfynnu cyfeirnod apêl yr Adran.

Yn y math eithriadol o achos y cyfeirir ato yn C3 - er enghraifft, apêl hysbysiad gorfodi sy'n mynd rhagddi trwy gynrychioliadau ysgrifenedig - gellir dyfarnu costau os dilëir apêl neu hysbysiad gorfodi unrhyw bryd yn ystod yr achos, heb reswm da.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English