Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Dyfarnu Costau mewn Apeliadau Cynllunio

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

C9 A ellir dyfarnu costau yn fy erbyn os nad oes gennyf gynrychiolaeth broffesiynol?

Gellir. Gall ymddygiad sy’n fwriadol anghydweithredol gan unrhyw barti p’un a oes ganddo gynrychiolaeth broffesiynol ai peidio, arwain at ddyfarnu costau. Enghreifftiau o’r cyfryw ymddygiad fyddai gwrthod darparu cyn yr ymchwiliad ddatganiad digonol o’r rhesymau dros apelio pan ofynnir i chi wneud hynny, neu wrthod trafod yr apêl gyda’r awdurdod cynllunio cyn yr ymchwiliad neu’r gwrandawiad, pan y’ch gwahoddir i wneud hynny. Gall methu hysbysu’r Adran bod cyfeiriad wedi newid fod yn afresymol os bydd hyn yn arwain at barti arall yn mynychu’r ymchwiliad neu’r gwrandawiad yn ddiangen. Pan fydd materion technegol yn ymwneud â chynsail gynllunio neu gynsail gyfreithiol neu weithdrefn yn codi, bydd y Cynulliad Cenedlaethol, wrth farnu a oedd ymddygiad yn afresymol, yn ystyried y cyngor proffesiynol a gafwyd gan y parti dan sylw – a hefyd unrhyw rybudd a roddwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol (gweler C7).

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English