Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Dyfarnu Costau mewn Apeliadau Cynllunio

Tudalen dwethaf	Tabl cynnwys Tudalen nesaf

C17 Os bydd fy nghais am gostau yn llwyddo, a delir holl gostau fy apêl?

Na wneir. Bydd faint o gostau a delir yn dibynnu ar ba gost ddiangen yr aethoch iddi mewn perthynas â’r ymchwiliad neu’r gwrandawiad (neu achosion trwy gynrychioliadau ysgrifenedig yn yr achosion eithriadol y cyfeirir atynt yn C3). Er enghraifft, efallai y dyfernir costau i chi am i’r awdurdod cynllunio lleol fethu cyflwyno unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau dim ond un o nifer o resymau a roddwyd ganddo dros wrthod caniatâd cynllunio. Byddai’r costau a ddyfernid i chi wedyn yn gyfyngedig i’r costau yr aed iddynt wrth herio’r rheswm hwnnw. Yn yr un modd, pan achosir i’r ymchwiliad gael ei ohirio yn ddiangen gan ymddygiad afresymol un o’r partïon, bydd y costau a ddyfernir yn gyfyngedig i’r costau ychwanegol yr aed iddynt gan y parti arall o ganlyniad i ohirio’r ymchwiliad. Pan fydd y cais yn llwyddo, bydd y llythyr penderfyniad yn nodi’r graddau y dyfernir costau i’r parti llwyddiannus.

Tudalen dwethaf	Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English