Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Dyfarnu Costau mewn Apeliadau Cynllunio

Atodiad

Tudalen dwethaf	Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Y  AROLYGIAETH GYNLLUNIO

DYFARNU COSTAU APÊL:

DEDDF LLYWODRAETH LOL 1972 - ADRAN 250(5)

SUT I WNEUD CAIS AM ASESIAD MANWL AC ANNIBYNNOL PAN FYDD ANGHYDFOD YNGLŶ Â SWM COSTAU A DDYFARNWYD

Dim ond canllaw cyffredinol yw'r nodyn hwn. Os oes gennych unrhyw amheuon ynglŷn â pharhau ag achos penodol, dylech geisio cyngor proffesiynol.

Os na all y partïon gytuno ar swm y costau i'w hadennill, gall y naill barti a'r llall gyfeirio'r costau y ceir anghydfod yn eu cylch at Swyddog Costau neu Farnwr Costau i'w asesu'n fanwl1. Ymdrinnir â hyn gan:

The Supreme Court Costs Office
Clifford's Inn
Fetter Lane
London EC4A 1DQ
(Ffôn: 020 7947 7314) 

Ond cyn i hyn allu digwydd rhaid i chi drefnu i gael y dyfarniad cost wedi'i wneud yn orchymyn yr Uchel Lys2. Gwneir hyn drwy ysgrifennu i:

The Crown Office
Royal Courts of Justice
Strand
London WC2A 2LL.

Dylech gyfeirio at adran 250(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac amgáu copi gwreiddiol o orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol, neu ei arolygydd, yn dyfarnu costau. Dylid amgáu amlen ragdaledig. Caiff gorchymyn yr Uchel Lys ei ddychwelyd gyda chanllawiau ar y camau nesaf i'w cymryd yn ystod y broses asesiad manwl

1 Rheolir proses asesiad manwl gan Ran 47 o'r Rheolau Gweithdrefnau Sifil a ddaeth i rym ar 26 Ebrill 1999. Gallwch brynu'r Rheolau hyn gan siopau llyfrau'r Llyfrfa (HMSO yn flaenorol) neu ddarllen copïau yn eich llyfrgell leol neu swyddfeydd y cyngor.

2 Nodwch na ellir hawlio llog ar y costau a hawlir oni wnaed gorchymyn gan yr Uchel Lys. Dim ond o ddyddiad y gorchymyn hwnnw y bydd llog yn gymwys.

Y cyfeiriad i gysylltu ag ef os ydych yn gwneud cais am gostau a nodwyd yn C15 a C16 o'r pamffled (neu os ydych am gael rhagor o gopïau o'r pamffled) yw:

Yn Lloegr
The Planning Inspectorate
3/10 Kite Wing
Temple Quay House
2 The Square
Temple Quay
BRISTOL BSI 6PN
Ffôn 0117 3728594 (Lloegr yn unig)

Yng Nghymru
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD CF10 3NQ
Ffôn 029 2082 3866 (Cymru yn unig)

Tudalen dwethaf	Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English