Costau - Cylchlythyr 23/93 (Y Swyddfa Gymreig)Dyfarnu costau yr aed iddynt mewn achosion cynllunio ac achosion eraill (gan gynnwys achosion yn ymwneud â Gorchmynion prynu gorfodol)Y pwer i ddyfarnu costau6. Mae adran 250 (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i wneud gorchymyn o ran costau’r partïon mewn ymchwiliad. Cymhwysir y pwer hwn at wahanol achosion cynllunio gan adran 320 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Atodlen 6 i’r ddeddf; gan adran 89 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990; a chan adran 37 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990. Yn achos gwrandawiadau, cychwynnwyd darpariaethau adran 322 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a pharagraff 6 (5) o Atodlen 6 i’r ddeddf, ar 2 Ionawr, 1992 mewn perthynas â dyfarnu costau i barti neu yn ei erbyn mewn apeliadau cynllunio ac apeliadau yn ymwneud â chaniatâd adeilad rhestredig, ac achosion eraill y delir â hwy trwy wrandawiad, lle y gwnaed yr apêl, neu y dechreuwyd achosion eraill, o dan y Deddfau Cynllunio, ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny. Felly, ac eithrio mewn achosion nad ydynt o dan y Deddfau Cynllunio, y nodir enghreifftiau ohonynt ym mharagraff 9 isod, nid yw deddfwriaeth yn gwahaniaethu bellach rhwng achosion trwy ymchwiliad ac achosion trwy wrandawiad at ddibenion costau. 7. Mae adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (a fewnosodwyd gan adran 30 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, a ddaeth i rym ar 2 Ionawr, 1992, yn galluogi dyfarnu costau yn erbyn unrhyw barti mewn achos o dan y Deddfau Cynllunio y mae ei ymddygiad "afresymol" yn arwain yn uniongyrchol at ganslo ymchwiliad neu wrandawiad, fel y caiff cost yr aed iddi gan unrhyw un o’r partïon eraill ei gwastraffu. Mae’r darpariaethau hyn yn berthnasol i bob categori o achosion a restrir yn Ychwanegiad 7 lle y trefnir ymchwiliad neu wrandawiad o dan y Deddfau Cynllunio, fel y darperir ar eu cyfer ym mharagraff 8 isod. Maent yn berthnasol i bob apêl o’r fath a wnaed, neu i achosion eraill a ddechreuwyd, ar 2, 1992, Ionawr neu ar ôl y dyddiad hwnnw lle y trefnir ymchwiliad neu wrandawiad ar ôl hynny.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |