Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Costau - Cylchlythyr 23/93 (Y Swyddfa Gymreig)

Dyfarnu costau yr aed iddynt mewn achosion cynllunio ac achosion eraill (gan gynnwys achosion yn ymwneud â Gorchmynion prynu gorfodol)

Tudalen dwethaf Tudalen nesaf

Ychwanegiad 1 - Egwyddorion Cyffredinol ar gyfer Dyfarnu Costau am Ymddygiad Afresymol mewn Apeliadau a gweithdrefnau cynllunio eraill

Cyflwyniad

1. Mewn achosion cynllunio ac achosion eraill y mae’r canllaw hwn yn berthnasol iddynt, mae’r partïon fel arfer yn cwrdd â’u costau eu hunain. Ar wahân i orchmynion prynu gorfodol a gorchmynion cyfatebol (y delir â hwy yn Ychwanegiad 6), dim ond pan ystyrir bod achos o’r hyn a elwir yn ymddygiad "afresymol" wedi bod y dyfernir costau. Mae Ychwanegiadau 1 i 4 yn rhoi enghreifftiau o ymddygiad "afresymol", naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol trwy gyfeirio at yr hyn a ddisgwylir gan bartïon mewn achosion cynllunio. Defnyddir y gair "afresymol" yn ei ystyr arferol, fel yr adlewyrchir yn nyfarniad yr Uchel Lys yn achos Cyngor Dinas Manceinion v. yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd a Mercury Communications Limited [1988] J.P.L. 774.

2. Mae’r egwyddor bod y partïon fel arfer yn cwrdd â’u costau eu hunain yn golygu, mewn achosion y mae’r canllaw hwn yn berthnasol iddynt (ar wahân i Ychwanegiad 6), nad yw dyfarniadau costau o reidrwydd yn "dilyn yr achos". Nid yw penderfyniad ar gais am gostau, pan y’i gwneir, yn dilyn yn uniongyrchol o ganlyniad yr apêl ei hun. Ni ddyfernir costau i apelydd am y rheswm syml bod yr apêl yn llwyddiannus. Ac ni ddyfernir costau i’r awdurdod cynllunio am y rheswm syml bod yr apêl yn methu chwaith. Gall fod cyfiawnhad weithiau dros ddyfarnu costau yn erbyn parti llwyddiannus. (Er enghraifft, gellir dyfarnu costau yn rhannol yn erbyn apelydd llwyddiannus am ymddygiad sy’n peri oedi i’r weithdrefn.)

3. Nodir enghreifftiau o ymddygiad afresymol, ac arweiniad mwy manwl ar yr amgylchiadau lle y gall partïon fod mewn perygl y dyfernir costau yn eu herbyn, yn Ychwanegiadau 2 i 4.Ceir crynodeb yn yr Atodiad i’r Cylchlythyr. Ceir arweiniad ar geisio dyfarniad costau yn Ychwanegiad 5.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English