Costau - Cylchlythyr 23/93 (Y Swyddfa Gymreig)Dyfarnu costau yr aed iddynt mewn achosion cynllunio ac achosion eraill (gan gynnwys achosion yn ymwneud â Gorchmynion prynu gorfodol)Ychwanegiad 3 - Ymddygiad Afresymol yn Ymwneud â Sylwedd yr Achos, gan gynnwys Camau a Gymerwyd cyn Cyflwyno ApêlDyfarniadau yn erbyn apelyddionApêl afresymol1. Mae’r hawl i apelio yn hawl statudol, ond dylid ei harfer yn rhesymol. Lle y bu apêl ddiweddar mewn perthynas â’r un safle, neu’r un safle i raddau helaeth, a’r un cynnig datblygu neu gynnig datblygu tebyg iawn, ac eglurodd yr Ysgrifennydd Gwladol, neu Arolygydd Cynllunio, na ddylid caniatáu’r datblygiad, efallai y bydd yr apelydd mewn risg y dyfernir costau yn ei erbyn os bydd yn parhau ag apêl bellach, er gwaethaf y penderfyniad blaenorol. Gallai hyn fod yn apêl gynllunio arall neu’n apêl, ar sail (a) yn adran 174 (2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(fel y’i diwygiwyd), yn erbyn hysbysiad gorfodi cysylltiedig a gyflwynwyd ar ôl hynny. O dan amgylchiadau lle nad arferodd yr awdurdod cynllunio ei bðer o dan adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (a fewnosodwyd gan adran 17 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991) i wrthod penderfynu ar gais cynllunio pellach, bydd yr apelydd mewn risg y dyfernir costau yn ei erbyn os dangosir, ar ôl gwneud apêl, na fu unrhyw newid o bwys yn yr amgylchiadau yn y cyfamser. 2. Mae paragraff 25 o PPG 1 yn egluro pan fydd y cynllun datblygu’n berthnasol i’r cynnig datblygu, ac y mae’n rhaid felly ei gymryd i ystyriaeth, fod yn rhaid penderfynu ar gais neu apêl yn unol â’r cynllun, oni fydd ystyriaethau perthnasol yn nodi fel arall. 3. Felly, mewn achos lle y mae’r cynllun datblygu yn berthnasol ac nad oes unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill (paragraff 26 o PPG 1), efallai yr ystyrir bod apêl yn afresymol pan all yr awdurdod cynllunio ddangos iddo benderfynu ar gais cynllunio am ddatblygiad arfaethedig yn unol â chynllun gweithredol sy’n gyfoes ac yn gyson â pholisïau cenedlaethol a rhanbarthol; ac iddo gadarnhau hynny yn ei resymau dros wrthod caniatâd ac yn ei ddatganiad ysgrifenedig ar apêl. Fel y nodir ym mharagraff 31 o PPG 1, o dan yr amgylchiadau hyn bydd yr apelydd mewn perygl y dyfernir costau’r awdurdod yn ei erbyn os bydd yn bwrw ymlaen â’r apêl i ymchwiliad neu wrandawiad, ond ni all gyflwyno tystiolaeth sylweddol i gefnogi’r honiad bod ystyriaethau perthnasol a fyddai’n cyfiawnhau eithriad i’r polisïau yn y cynllun datblygu. 4. Mae paragraff 31 o PPG 1 hefyd yn delio â’r achos lle y mae’r awdurdod cynllunio wedi gwrthod cais am ei fod yn gynamserol ar adeg pryd y mae’r cynllun datblygu yn cael ei baratoi neu ei ddiwygio. Yn y cyfryw achos lle y nododd yr awdurdod cynllunio yn glir sut y byddai rhoi caniatâd am y datblygiad dan sylw yn dylanwadu ar ganlyniad proses y cynllun datblygu, mae apelydd sy’n parhau ag apêl mewn perygl y dyfernir costau’r awdurdod cynllunio yn ei erbyn os dangosir bod ei ymddygiad yn afresymol. Rhoddir cyngor ar gynamseredd, ac ar y pwys y dylid ei roi ar gynlluniau datblygu arfaethedig, ym mharagraffau 32 i 34 o PPG 1. 5. Os oes ystyriaethau perthnasol eraill, neu os nad yw’r cynllun datblygu yn berthnasol i’r cais na’r apêl ( paragraff 27 ac 28 o PPG 1), efallai yr ystyrir bod apêl yn afresymol lle y mae’n rhaid ei bod yn amlwg o ganllawiau polisi cynllunio’r Llywodraeth neu o awdurdod barnwrol, lle y maent yn berthnasol i’r achos penodol, nad oedd gan yr apêl unrhyw obaith rhesymol o lwyddo. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i gynigion datblygu mawr. Lle y mae apelydd yn ceisio caniatâd am ddatblygiad mewn Llain Las, yr ystyrid fel arfer y byddai’n amhriodol yno, ni fydd yn ddigon iddo ddangos ei fod yn wirioneddol gredu bod yna amgylchiadau arbennig iawn a bod y cynnig yn ddigon eithriadol i gyfiawnhau anwybyddu’r rhagdybiaeth yn erbyn y datblygiad yn deillio o’r arweiniad ar Leiniau Glas (a nodir yn PPG 2), ac ni fydd yn ddigon iddo ddibynnu ar hynny. Wrth benderfynu ar y cyfryw gais am gostau, yr hyn sy’n bwysig yw a yw’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn ddigonol i gyfiawnhau’r eithriad i’r polisi cyffredinol ar Leiniau Glas. Enghraifft arall yw apêl hysbysebu yn erbyn penderfyniad i wrthod safle posteri ar raddfa fawr, lle y mae’n amlwg y byddai’r arddangosfa yn groes i arweiniad polisi ar reoli hysbysebion allanol yn yr Ychwanegiad PPG 19. Mewn unrhyw achos penodol, bydd apelydd mewn perygl y dyfernir costau yn ei erbyn os deuir i’r casgliad ei bod yn anochel ei bod yn amlwg o’r dystiolaeth a gyflwynwyd, nad oedd gan yr apêl unrhyw obaith rhesymol o lwyddo. 6. Ym mhob achos o’r fath, bydd yr awdurdod cynllunio yn cryfhau’r achos dros ddyfarnu ei gostau iddo os gall ddangos iddo dynnu sylw’r apelydd at y ffeithiau perthnasol ac at y canlyniadau posibl pe bai’n parhau ag apêl.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |