Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Costau - Cylchlythyr 23/93 (Y Swyddfa Gymreig)

Dyfarnu costau yr aed iddynt mewn achosion cynllunio ac achosion eraill (gan gynnwys achosion yn ymwneud â Gorchmynion prynu gorfodol)

Tudalen dwethaf Tudalen nesaf

Ychwanegiad 4 - Cymhwyso’r Polisi ar Gostau at Drydydd Partïon mewn Achosion

Polisi cyffredinol ar ddyfarnu costau i drydydd partïon, neu yn eu herbyn

1. Fel yr esbonnir ym mharagraff 8 o Ychwanegiad 1, mae’r term "prif barti" yn cyfeirio (ar gyfer achosion apêl) at yr awdurdod cynllunio perthnasol a’r apelydd. Diffinnir partïon eraill â diddordeb, gan gynnwys ymgynghoreion statudol, p’un a oes ganddynt "yr hawl i ymddangos mewn ymchwiliad" ai peidio o dan y Rheolau Gweithdrefnau Ymchwiliadau perthnasol, at ddibenion yr arweiniad hwn, fel trydydd partïon. Yn achos gwrandawiadau, nid yw’r Rheolau Gweithdrefnau Ymchwiliadau yn berthnasol, er bod ystyriaethau tebyg yn ymwneud ag ymddygiad gweithdrefnol y partïon yn berthnasol.

2. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dyfernir costau o blaid trydydd partïon, gan gynnwys ymgynghoreion statudol, neu yn eu herbyn. Yn gyffredinol, ni ddyfernir costau i drydydd partïon nac yn eu herbyn pan fydd ymddygiad afresymol gan un o’r prif bartïon yn ymwneud â sylwedd yr achos (h.y. ystyrir bod yr apêl, neu’r penderfyniad i wrthod caniatâd, yn afresymol). Ond, pan fydd ymddygiad afresymol yn ymwneud â materion gweithdrefnol yn yr ymchwiliad, neu’r gwrandawiad, yn arwain at gost ddiangen, gellir dyfarnu costau i drydydd partïon neu yn eu herbyn. Enghraifft o hyn fyddai gohirio achos yn ddiangen o ganlyniad i ymddygiad afresymol, p’un ai gan drydydd parti neu barti arall.

3. Nid yw’r darpariaethau statudol ar gyfer dyfarnu costau (a’r gweithdrefnau y dyfernir costau o danynt) yn berthnasol i’r Goron, gan gynnwys Adrannau’r Llywodraeth a all gael eu cynrychioli, fel trydydd partïon, mewn achosion cynllunio. Mae’r Goron yn dal i fod yn eithriedig rhag y darpariaethau hyn. Os bydd unrhyw barti o’r farn iddo fynd i gostau "gwastraffedig" neu ddiangen o ganlyniad uniongyrchol i ymddygiad afresymol gan Adran o’r Llywodraeth, mae’r rhydd i’r parti fynd at yr adran honno yn uniongyrchol. O dan Siarter y Dinesydd, dylai fod gan bob corff cyhoeddus weithdrefnau cwyno sydd wedi’u hysbysebu’n dda ac sy’n hawdd eu defnyddio.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English