Costau - Cylchlythyr 23/93 (Y Swyddfa Gymreig)Dyfarnu costau yr aed iddynt mewn achosion cynllunio ac achosion eraill (gan gynnwys achosion yn ymwneud â Gorchmynion prynu gorfodol)Ychwanegiad 5 - Y Cais am GostauAchosion trwy ymchwiliad neu wrandawiad1. Fel arfer dylid gwneud unrhyw gais am gostau i’r Arolygydd Cynllunio yn yr ymchwiliad neu’r gwrandawiad. Am y dyfernir costau am ymddygiad afresymol, fel arfer mae’n amlwg erbyn hyn a oes sail i’r cyfryw honiad. Mae cais a wneir cyn diwedd yr achos yn galluogi’r Arolygydd i ystyried argymhellion y partïon. Fel arfer gellir delio ag ef yn syml ac yn gyflym. Nid effeithir ar benderfyniad apêl yr Arolygydd mewn unrhyw ffordd gan y ffaith bod cais am gostau wedi’i wneud. Gwneir cynrychioliadau’r ddau barti ar unrhyw gais am gostau fel arfer yn syth ar ôl ymchwiliad neu wrandawiad. Os oes angen, efallai y caniateir gohirio’r achos am gyfnod byr, yn ôl disgresiwn yr Arolygydd, cyn gwrando ar y cais. Os mai’r Ysgrifennydd Gwladol sydd i benderfynu ar yr apêl, bydd yr Arolygydd yn ei hysbysu o’r cais ac yn gwneud argymhelliad fel arfer, a ystyrir wrth benderfynu a ddylid dyfarnu unrhyw gostau. Achosion lle na chynhelir ymchwiliad na gwrandawiad oherwydd iddo gael ei ganslo’n hwyr2. Os censlir ymchwiliad neu wrandawiad a drefnwyd o ganlyniad uniongyrchol i apelydd yn dileu apêl, neu i’r awdurdod cynllunio yn dileu ei resymau dros wrthod caniatâd neu dros ei hysbysiad gorfodi, neu unrhyw sail arall i’r achos, dylid gwneud cais am gostau yn ysgrifenedig ar unwaith i’r Adran. Os yw’n anochel y bydd peth oedi, dylid gwneud y cais heb fod yn ddiweddarach na phedair wythnos ar ôl derbyn cadarnhad gan yr Adran (neu, yn achos trydydd partïon, gan yr awdurdod cynllunio) fod yr ymchwiliad neu’r gwrandawiad wedi’i ganslo. Dyma’r arfer eisoes mewn achosion hysbysiad gorfodi (a rhai apeliadau arbenigol a nodir ym mharagraff 10 o’r Cylchlythyr), a aeth rhagddynt trwy gynrychioliadau ysgrifenedig ond na phenderfynwyd arnynt am i un o’r prif bartïon dynnu’n ôl. Yn achos achosion eraill o dan y Deddfau Cynllunio, nid yw’r Ysgrifennydd Gwladol yn bwriadu ystyried defnyddio’r pðer disgresiwn, yn adran 322A o Ddeddf 1990, oni dderbynnir, fel yn achos apeliadau gorfodi, gais penodol am gostau ar gyfer ei ystyriaeth, a wneir gan un o’r partïon yn erbyn y prif barti arall, gan un trydydd parti, neu fwy, yn erbyn prif barti. Gwneir y penderfyniad wedyn a oedd y weithred a achosodd i’r ymchwiliad neu’r gwrandawiad gael ei ganslo yn seiliedig ar gyfnewid argymhellion ysgrifenedig. Rhoddir sylw arbennig i amgylchiadau’r weithrediad a phryd y digwyddodd a’r cyfiawnhad datganedig drosti. Felly gwneir y penderfyniad ar gostau yn seiliedig ar wybodaeth berthnasol yn unig, gwybodaeth a fydd wedi’i darparu ar gyfer y partïon perthnasol er mwyn iddynt gyflwyno sylwadau arni o flaen llaw.
|
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |