Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Costau - Cylchlythyr 23/93 (Y Swyddfa Gymreig)

Dyfarnu costau yr aed iddynt mewn achosion cynllunio ac achosion eraill (gan gynnwys achosion yn ymwneud â Gorchmynion prynu gorfodol)

Tudalen dwethaf Tudalen nesaf

Ychwanegiad 6 - Costau mewn perthynas â Gorchmynion Prynu Gorfodol a Gorchmynion Cyfatebol

Egwyddorion cyffredinol

1. Mae gwahaniaeth rhwng achosion lle y mae’r apelyddion yn cymryd y cam cyntaf, megis gwneud cais am ganiatâd cynllunio neu ymgymryd â datblygiad heb ganiatâd cynllunio yn ôl y sôn, ac achosion lle y mae gwrthwynebwyr yn amddiffyn eu hawliau, neu’n diogelu eu buddiannau, sy’n destun gorchymyn prynu gorfodol. Os bydd gwrthwynebydd statudol y cyfryw orchymyn yn llwyddiannus, dyfernir costau o’i blaid oni fydd rhesymau eithriadol dros beidio â gwneud hynny. Dyfernir y costau yn erbyn yr awdurdod a wnaeth y gorchymyn: nid yw’n cyfleu, ohono’i hun, ymddygiad afresymol gan yr awdurdod.

2. Er mwyn galluogi dyfarnu costau ar sail llwyddiant mae’n rhaid bod yr hawlydd wedi gwrthwynebu’r gorchymyn yn ffurfiol; mae’n rhaid bod y gorchymyn wedi bod yn destun ymchwiliad lleol a fynychwyd gan yr hawlydd (neu lle y cynrychiolwyd); ac mae’n rhaid bod yr hawlydd wedi cael gwrandawiad fel gwrthwynebydd statudol. Ar ben hynny, mae’n rhaid bod gwrthwynebiad yr hawlydd wedi’i ganiatáu gan benderfyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i gadarnhau’r gorchymyn, neu gan ei benderfyniad i hepgor o’r gorchymyn y cyfan neu ran o eiddo’r gwrthwynebydd.

3. Nid oes angen i wrthwynebydd statudol llwyddiannus wneud unrhyw gais am gostau; bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifennu at y partïon dan sylw. Mae rhai amgylchiadau lle y gellir dyfarnu costau i wrthwynebydd aflwyddiannus neu awdurdod sy’n gwneud gorchymyn oherwydd ymddygiad afresymol gan y parti arall. Mewn gwirionedd mae’n debyg y bydd y cyfryw ddyfarniad yn ymwneud â materion gweithdrefnol, megis methu cyflwyno rhesymau dros wrthwynebu’r gorchymyn neu gyflwyno datganiad o achos, sy’n arwain at gost ddiangen - er enghraifft, am fod yn rhaid gohirio’r ymchwiliad neu ei ymestyn yn ddiangen. Yn yr achosion hyn dylid gwneud cais am gostau i’r Ysgrifennydd Gwladol yn syth ar ôl yr ymchwiliad. Ni ellir dyfarnu costau ar sail llwyddiant ac ymddygiad afresymol yn y cyfryw achosion; ond gellir lleihau’r costau a ddyfernir i wrthwynebydd llwyddiannus os bydd wedi ymddwyn yn afresymol gan achosi i bartïon eraill fynd i gost ddiangen yn yr achos - er enghraifft lle y mae ei ymddygiad yn arwain at ohirio’r achos pan na ddylai fod wedi bod angen gwneud hynny.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English