Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Costau - Cylchlythyr 23/93 (Y Swyddfa Gymreig)

Dyfarnu costau yr aed iddynt mewn achosion cynllunio ac achosion eraill (gan gynnwys achosion yn ymwneud â Gorchmynion prynu gorfodol)

Tudalen dwethaf

Ychwanegiad 7 - Achosion lle y gellir dyfarnu Costau a lle y cynhelir neu y censlir Ymchwiliad neu Wrandawiad

1. Rhestrir isod achosion lle y cynhelir (neu y censlir) ymchwiliad neu wrandawiad, ac y mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Arolygwyr Cynllunio yr hawl i ddyfarnu costau, ar sail adran 250 (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Gweithredwyd y darpariaethau yn adran 322A o Ddeddf 1990 (a gyflwynwyd gan adran 30 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991), yn ymwneud â chanslo ymchwiliad neu wrandawiad yn hwyr ar 2 Ionawr, 1992 trwy orchymyn cychwyn (O.S. 1991/2728) ar gyfer apeliadau a wnaed ar y dyddiad hwnnw neu ar ei ôl. Nid yw’r gorchymyn cychwyn yn berthnasol i’r achosion a nodir yn isbaragraffau (25) i (30) o baragraff 2 isod. Yn achos gwrandawiadau, mae’r pðer i ddyfarnu costau yn deillio o gychwyn adran 322 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn rhannol, ar 2 Ionawr (O.S. 1991/2698).

2. Mae’r achosion hyn yn cynnwys: -

(1) apeliadau cynllunio o dan adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
(2) ceisiadau cynllunio a gyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 77 o Ddeddf 1990;
(3) apeliadau hysbysiad gorfodi o dan adran 174 o Ddeddf 1990;
(4) apeliadau caniatâd adeilad rhestredig o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
(5) ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig a gyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 12 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
(6) apeliadau hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag adeilad rhestredig o dan adran 39 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
(7) ceisiadau am ganiatâd ardal gadwraeth a gyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 74 (2)(a) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
(8) apeliadau caniatâd ardal gadwraeth o dan 74 (3) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
(9) apeliadau hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ardal gadwraeth o dan adran 74 (3) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
(10) apeliadau hysbysebu, gan gynnwys apeliadau "hysbysiad dirwyn i ben", o dan adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliad 15 Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992;
(11) gorchmynion o dan adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a’r Rheoliadau Rheoli Hysbysebion yn dynodi, yn diddymu neu’n diwygio Ardaloedd Rheoli Hysbysebion Arbennig;
(12) apeliadau a wnaed cyn 27 Gorffennaf, 1992, o dan adran 195 o Ddeddf 1990, mewn perthynas â cheisiadau am dystysgrifau defnydd sefydledig;
(13) apeliadau a wnaed cyn 27 Gorffennaf, 1992, mewn perthynas â cheisiadau o dan adran 64 o Ddeddf 1990, i nodi a oes angen cais am ganiatâd cynllunio;
(14) o Orffennaf 1992, apeliadau o dan adran 195 o Ddeddf 1990, fel y’i diwygiwyd gan baragraff 32 o Atodlen 7 i Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (tystysgrifau datblygiad cyfreithlon);
(15) hysbysiadau cwblhau y mae angen i’r Ysgrifennydd Gwladol eu cadarnhau o dan adran 95 o Ddeddf 1990;
(16) hysbysiadau gorfodi a gyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 139 a 140 o Ddeddf 1990;
(17) hysbysiadau prynu adeilad rhestredig a gyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 33 a 34 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
(18) hysbysiadau prynu yn ymwneud â chadw coed a gyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 198 (4)(b) o Ddeddf 1990;
(19) apeliadau hysbysiad gorfodi yn ymwneud â phlannu coed newydd yn lle hen goed o dan adran 208 o Ddeddf 1990;
(20) apeliadau o dan adran 22 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991, ac Atodlen 2 i’r ddeddf, yn erbyn penderfyniad i wrthod cais am gofrestru hen ganiatâd mwyngloddio; neu yn erbyn penderfyniad ar ddarn o dir neu amodau sy’n wahanol i’r rhai a nodir yn y cais; neu yn erbyn penderfyniad ar amodau y bwriedir eu hatodi i hen ganiatâd mwyngloddio cofrestredig;
(21) *apeliadau o dan adran 106B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (a fewnosodwyd gan adran 12 (1) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991);
(22) ceisiadau sylweddau peryglus a gyfeirir at yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 a’r Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus);
(23) apeliadau caniatâd sylweddau peryglus o dan adran 21 Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 a’r Rheoliadau;
(24) apeliadau o dan adran 25 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 a’r Rheoliadau (Sylweddau Peryglus) yn erbyn hysbysiadau tramgwyddo sylweddau peryglus;
(25) gorchmynion priffyrdd neu hawliau tramwy cyhoeddus a wrthwynebir o dan Ran X o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
(26) **gorchmynion o dan adrannau 97 a 98 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ac Atodlen 5 i’r ddeddf, yn diddymu neu’n diwygio caniatâd cynllunio;
(27) **gorchmynion o dan adrannau 23 a 24 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, yn diddymu neu’n diwygio caniatâd adeilad rhestredig;
(28) **gorchmynion o dan adrannau 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a’r Rheoliadau Rheoli Hysbysebion yn diddymu neu’n diwygio caniatâd hysbysebu a roddwyd;
(29) **gorchmynion dirwyn i ben o dan adrannau 102 a 103 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, ac Atodiad 9 i’r ddeddf;
(29A) **gorchmynion gwahardd a gorchmynion (ar ôl atal tynnu a gweithio mwynau) i ddiogelu’r amgylchedd, o dan Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
(30) **gorchmynion o dan adran 14 a 15 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 a’r Rheoliadau, yn diddymu neu’n diwygio caniatâd sylweddau peryglus.


*Fe’u gweithredwyd gan hysbysiad cychwyn ar 9 Tachwedd, 1992 (O.S. 1992/2831), fel yr esbonnir yng Nghylchlythyr 28/92 DOE (WO 66/92).
**Ystyrir bod y rhain yn cyfateb i orchmynion prynu gorfodol ac fe’u cwmpesir gan yr arweiniad polisi yn Ychwanegiad 6. Ceir enghreifftiau o orchmynion cyfatebol yn yr Atodiad i Ychwanegiad 6.

 


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English