Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Ynglyn â’r Arolygiaeth Gynllunio

Rydym yn rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) a Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM). Rydym yn ymdrin ag apeliadau gorfodi yng Nghymru o’n swyddfa yng Nghaerdydd ac apeliadau gorfodi yn Lloegr o’n swyddfa ym Mryste. Mae gan yr Arolygwyr, sy’n dyfarnu’r rhan fwyaf o’r apeliadau, amrywiaeth o gefndiroedd. Ymhlith y rhain mae cynllunio tref, tirfesur a pheirianneg, pensaernïaeth a’r gyfraith. Rydym yn dewis yr Arolygwyr yn ofalus iawn ac yn eu hyfforddi yn drylwyr.

Mae’r llyfryn hwn yn egluro’r weithdrefn ar gyfer apeliadau a wneir yng Nghymru ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003. Os ydych am gael cyngor ar apeliadau yn Lloegr, dylech gysylltu â’n swyddfa ym Mryste. Roedd y wybodaeth a gynhwysir yn y llyfryn yn gywir ar y dyddiad cyhoeddi, ond nid oes unrhyw statws cyfreithiol ganddo. Byddwn yn ymdrin â phob apêl mor effeithlon ag y gallwn. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn dibynnu ar gydweithrediad pawb.

Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English