Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

1 Y broses ar gyfer apeliadau gorfodi

Pryd bydd yn rhaid i Awdurdod Cynllunio Lleol (ACLl) gyflwyno hysbysiad gorfodi?

1.1 Cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu barc cenedlaethol yw ACLl. Maent yn gyfrifol am y rheolaeth gynllunio o fewn ardal. Os bydd person yn codi adeilad neu’n newid ei ddefnydd heb ganiatâd cynllunio gan yr ACLl, efallai y byddant yn torri rheolau sy’n gysylltiedig â rheolaeth gynllunio. Os bydd ganddynt ganiatâd cynllunio eisoes ond nad ydynt yn bodloni’r amodau a atodir iddo, efallai y byddant hefyd yn torri rheolau sy’n gysylltiedig â rheolaeth gynllunio.

1.2 Nid yw’n drosedd torri rheolau sy’n gysylltiedig â rheolaeth gynllunio. Ond os bydd yr ACLl yn penderfynu nad yw’r adeilad neu’r defnydd yn dderbyniol, gallant benderfynu anfon hysbysiad gorfodi.

1.3 Nid oes rhaid i’r ACLl anfon hysbysiad gorfodi am fod y rheolau sy’n gysylltiedig â rheolaeth gynllunio wedi’u torri. Mae’n rhaid iddynt gael rhesymau da eraill a syniad clir o’r hyn y maent am ei wneud i unioni pethau. Er enghraifft, gallai hysbysiad gorfodi ddweud wrth rywun i ddymchwel adeilad, rhoi terfyn ar ddefnydd, gwneud rhywbeth i wneud yr adeilad neu’r defnydd yn dderbyniol, neu fodloni amodau’r caniatâd cynllunio.

Pwy all apelio?

1.4 Gall eich ACLl gyflwyno hysbysiad gorfodi drwy’r post, drwy ei roi i’r person ar y tir, neu drwy ei osod ar wrthrych ar y tir.

1.5 Gall unrhyw un sydd â diddordeb cyfreithiol yn y tir apelio, pa un a chyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddynt ai peidio. Fel arfer, y perchennog, y tenant neu’r prydleswr fydd y rhywun “â diddordeb” yn y tir. Gall cwmni morgeisi neu fenthyciwr arall hefyd fod â diddordeb. Ni all unrhyw un arall apelio yn erbyn hysbysiad, ond gallant fynegi eu barn am apêl.

Beth fydd yn digwydd os na wneir apêl?

1.6 Mae’n rhaid apelio cyn y dyddiad y bydd yr hysbysiad gorfodi yn dechrau bod yn berthnasol. Os na fydd unrhyw un yn apelio yn erbyn yr hysbysiad cyn y dyddiad hwnnw, bydd yr hysbysiad yn berthnasol o’r dyddiad hwnnw. Mae hyn yn golygu y cofnodir yr hysbysiad yn y gofrestr cynllunio berthnasol a dangosir unrhyw ‘chwiliadau’ a gynhaliwyd os caiff y tir neu’r adeilad ei werthu.

1.7 Mae’r hysbysiad gorfodi yn nodi’r hyn y mae’n rhaid ei wneud i fodloni’r rheolau sy’n gysylltiedig â rheolaeth gynllunio. Os na fydd y person y mae’r hysbysiad yn cyfeirio ato yn cydymffurfio o fewn y terfyn amser a roddir, gellir eu dirwyo neu, mewn achosion eithafol, eu carcharu. Mae gan yr ACLl bwerau hefyd i gyflawni’r gwaith a chodi tâl ar y perchennog tir.
Pwy fydd yn penderfynu ar yr apêl

1.8 Arolygwyr diduedd sy’n meddu ar gymwysterau proffesiynol ym maes cynllunio neu faes cysylltiedig, fel y gyfraith neu bensaernïaeth, sy’n penderfynu ar apeliadau.

1.9 Arolygydd fydd yn penderfynu ar y rhan fwyaf o apeliadau, ond bydd y Cynulliad yn penderfynu ar rai apeliadau (er enghraifft, cynigion a fydd yn effeithio ar fwy na’r ardal leol). Yn yr achosion hynny, bydd yr Arolygydd yn asesu’r apêl, ond byddant yn anfon adroddiad gyda’u hargymhelliad i’r Cynulliad. Yna, bydd y Cynulliad yn ystyried pa un a ddylid derbyn argymhelliad yr Arolygydd, ac yn cyflwyno llythyr o benderfyniad.

Sut y penderfynir ar apeliadau

1.10 Ymdrinnir ag apeliadau mewn un o dair ffordd:

  • Gall yr ACLl a’r apelydd wneud datganiadau ysgrifenedig.
  • Gellir cynnal gwrandawiad (llai ffurfiol nag ymchwiliad llawn).
  • Gellir cynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus.

1.11 Bydd yr Arolygydd bob amser yn ystyried yr holl ffeithiau a ddarperir ac fel arfer, bydd yn ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad neu cyn anfon ei benderfyniad i’r Cynulliad. Anfonir yr hysbysiad o benderfyniad i’r ACLl ac unrhyw un arall sydd wedi gofyn am un.

1.12 Ceir disgrifiad manylach o’r holl weithdrefnau apelio, a sut y gallwch gymryd rhan ynddynt, mewn adrannau penodol o’r llyfryn hwn.

Y Gymraeg

1.13 Rydym yn cyflwyno gwasanaeth o’r un safon i’n cwsmeriaid yn Gymraeg ac yn Saesneg.

1.14 Cydnabyddwn y gall ein cwsmeriaid fynegi eu barn yn well yn eu dewis iaith. Felly, mae croeso i chi gysylltu â ni yn Gymraeg neu’n Saesneg.

1.15 Gall unrhyw un sydd am siarad mewn ymchwiliad neu wrandawiad yn Gymraeg wneud hynny, ond byddai o gymorth pe gallech hysbysu’r Arolygiaeth Gynllunio ymlaen llaw er mwyn iddynt wneud trefniadau.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English