Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

2 Sut y cewch eich hysbysu am yr apêl

2.1 Os bydd eich ACLl wedi cyflwyno hysbysiad a bod apêl ddilys yn ei erbyn, byddant yn ysgrifennu at bawb sy’n byw gerllaw a phobl eraill y gallai hyn effeithio arnynt, er mwyn eu hysbysu am yr apêl. Bydd yr ACLl hefyd yn ysgrifennu at unrhyw un sydd eisoes wedi ysgrifennu atynt ynglyn â’r safle.

2.2 Os ymdrinnir â’r apêl mewn ymchwiliad, bydd yr ACLl fel arfer yn hysbysebu manylion yr ymchwiliad yn y wasg leol. Mae’n rhaid i’r apelydd arddangos manylion yr ymchwiliad, gan gynnwys yr amser a’r lleoliad, ar safle’r datblygiad honedig bythefnos cyn yr ymchwiliad.

2.3 Y rhain yw’r isafswm gofynion cyhoeddusrwydd; gall eich ACLl roi mwy o gyhoeddusrwydd i apeliadau.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English