Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi3 Yr hyn y gallwch ei wneud3.1 Os penderfynir ar yr apêl drwy’r weithdrefn ysgrifenedig, gallwch ysgrifennu atom neu anfon neges ebost atom yn mynegi eich barn. Os cynhelir gwrandawiad neu ymchwiliad, gallwch ysgrifennu atom neu anfon neges ebost atom o hyd, ond efallai y byddwch am fynychu’r gwrandawiad neu’r ymchwiliad a chymryd rhan hefyd. 3.2 Bydd yr ACLl yn anfon copïau atom o unrhyw lythyrau a dderbyniwyd yn flaenorol ynglyn â’r safle. Os na fyddwch wedi ysgrifennu am y mater o’r blaen, neu os oes gennych rywbeth newydd i’w ddweud am yr apêl, gallwch ysgrifennu atom neu anfon neges ebost atom. Ond ceir terfynau amser llym ar gyfer anfon eich sylwadau atom. Y terfynau amser ar gyfer anfon eich sylwadau3.3 Pa weithdrefn bynnag a ddilynir, os ydych am wneud sylwadau ysgrifenedig, mae’n rhaid i ni eu derbyn o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau ar gyfer yr apêl (bydd yr ACLl yn eich hysbysu am y cyfnod hwn pan fyddant yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu am yr apêl). 3.4 Mae’r terfynau amser ar gyfer anfon sylwadau atom yn bwysig, ac mae’n rhaid i bawb sy’n cymryd rhan yn yr apêl eu dilyn. Os anfonir sylwadau y tu allan i’r terfynau amser, byddwn yn eu dychwelyd heb i’r Arolygydd eu gweld, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Gweler yr adrannau am y weithdrefn ysgrifenedig, y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad a’r weithdrefn ar gyfer ymchwiliad yn ddiweddarach yn y llyfryn hwn a’r diagramau yn yr atodiad. Yr hyn y dylech wneud sylwadau arno3.5 Dim ond gwybodaeth a thystiolaeth sy’n berthnasol i’r apêl y gall yr Arolygydd a’r Cynulliad ei ystyried. Gallai hyn gwmpasu ystod eang o faterion, ond fel arfer, nodir y rhai sy’n berthnasol yn llythyr yr ACLl sy’n hysbysu pobl am yr apêl. 3.6 Efallai y bydd gennych bryderon eraill ynghylch yr apêl. Ond os na fyddant yn berthnasol, ni fydd yr Arolygydd yn eu hystyried. Er enghraifft, ni allant fel arfer ystyried sut y mae datblygiad wedi effeithio ar werthoedd eiddo yn yr ardal. Dogfennau’r Apêl3.7 Datganiad o achos: Yn y datganiad o achos, bydd angen i’r partïon roi manylion llawn yr achos y byddant yn ei gyflwyno yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad. Mae’n rhaid iddynt gynnwys a rhestru unrhyw ddogfennau, gan gynnwys mapiau a chynlluniau, y maent yn bwriadu cyfeirio atynt neu eu defnyddio fel tystiolaeth. Dylent hefyd gynnwys rhestr o unrhyw amodau neu gyfyngiadau y byddent yn cytuno iddynt, pe câi’r apêl ei chaniatáu. 3.8 Datganiad o dir cyffredin: Yn y datganiad o dir cyffredin, dylai’r apelydd a’r ACLl restru’r holl faterion y cytunwyd arnynt. Disgwylir iddynt gyfarfod cyn yr ymchwiliad er mwyn cytuno ar dir cyffredin a ddylai gynnwys ffeithiau sylfaenol. 3.9 Datganiadau ysgrifenedig o dystiolaeth: Datganiad ysgrifenedig y mae’r partïon yn dymuno i’r Arolygydd ei ystyried yn ystod yr ymchwiliad yw’r ddogfen hon. Os bydd y datganiad yn fwy na 1500 o eiriau o hyd, mae’n rhaid darparu 2 gopi o ddatganiad ysgrifenedig na ddylent fod yn hwy na 10% o hyd y broflen dystiolaeth. Dylai’r crynodeb adlewyrchu cynnwys y datganiad ac ni ddylai gynnwys tystiolaeth newydd. Pan ddarperir crynodeb, dim ond hwnnw a gaiff ei ddarllen mewn ymchwiliad. Os na dderbynnir datganiadau ysgrifenedig a chrynodebau gyda’i gilydd ac mewn pryd, gellir gohirio’r ymchwiliad. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |