Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi5 Y weithdrefn gwrandawiad5.1 Trafodaeth o gynigion yr apêl yw gwrandawiad. Yr Arolygydd sy’n arwain y drafodaeth. Mae gwrandawiadau yn rhoi cyfle i bawb sy’n ymwneud â’r apêl fynegi eu barn mewn amgylchedd mwy hamddenol ac anffurfiol nac ymchwiliad cyhoeddus. 5.2 Mae i wrandawiadau lawer o fanteision, ond nid ydynt yn addas ar gyfer apeliadau:
Anfon eich sylwadau atom5.3 Nid oes rhaid i chi fynd i’r gwrandawiad. Os byddai’n well gennych, gallwch ysgrifennu atom. Os ydych am wneud sylwadau (neu ychwanegu at y rhai a wnaed eisoes) mae’n rhaid i ni eu derbyn o fewn y terfyn amser a roddir yn eich llythyr gan yr ACLl yn eich hysbysu am yr apêl. Mae hyn o fewn chwe wythnos i’r dyddiad y derbyniwn yr apêl – yr enw ar hyn yw’r ‘dyddiad dechrau’. Fel arfer, ni fyddwn yn derbyn sylwadau a dderbynnir yn hwyr. Yn hytrach, byddwn yn eu dychwelyd atoch. Gallwch fynychu’r gwrandawiad o hyd, ond ni fydd gan yr Arolygydd y fantais o fod wedi darllen eich sylwadau. 5.4 Byddwn yn anfon copïau o’ch llythyr neu’ch neges ebost at yr apelydd, yr ACLl a’r Arolygydd. Os byddwn o’r farn bod eich llythyr yn cynnwys sylwadau hiliol neu enllibus, byddwn yn eu dychwelyd atoch cyn i’r Arolygydd neu unrhyw un arall eu gweld. Os byddwch yn dileu’r sylwadau hiliol neu enllibus, gallwch anfon eich llythyr neu’ch neges ebost atom eto. Ond, mae’n rhaid i ni eu derbyn cyn i’r terfyn amser ddod i ben. 5.5 Os yw’n bosibl, anfonwch dri chopi o’ch llythyr atom. Ni fyddwn yn cydnabod eich gohebiaeth oni fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Os hoffech gael copi o benderfyniad yr apêl, mae’n rhaid i chi ofyn am un yn eich llythyr neu’ch neges ebost. Trefnu’r gwrandawiad5.6 Byddwn yn cytuno ar ddyddiad ar gyfer y gwrandawiad gyda’r apelydd a’r ACLl. Nid ydym yn cynnwys unrhyw un arall pan fyddwn yn pennu’r dyddiad. Bydd yr ACLl yn ysgrifennu at bawb a hysbyswyd am yr apêl ac yn rhoi manylion iddynt am y gwrandawiad, fel yr amser a’r lleoliad. Gallai’r ACLl hefyd roi hysbysiad mewn papur lleol yn rhoi’r un wybodaeth. 5.7 Os ydych am weld beth mae’r apelydd a’r ACLl wedi’i ddweud, dylech allu gweld copïau o’u dogfennau apêl yn swyddfeydd y cyngor lleol. Pobl ag anableddau5.8 Rydym am gynnal pob gwrandawiad mewn adeiladau â chyfleusterau priodol ar gyfer pobl ag anableddau. Fel arfer, mae’r ACLl yn dewis ac yn darparu’r ystafell. Os byddwch chi, neu unrhyw un rydych yn ei adnabod, am fynd i’r gwrandawiad a bod gennych anghenion penodol, cysylltwch â’r ACLl i gadarnhau y gallant wneud trefniadau priodol. Beth fydd yn digwydd yn ystod y gwrandawiad5.9 Fel arfer, cynhelir gwrandawiadau mewn swyddfeydd cyngor, neuaddau pentref neu ganolfannau cymunedol. Fel arfer, maent yn dechrau am 10.00am ac yn para tua hanner diwrnod. 5.10 Bydd yr Arolygydd yn agor y gwrandawiad drwy egluro manylion yr apêl. Yna, bydd ef neu hi yn mynd drwy rai pwyntiau cyffredin, gan gynnwys gofyn pwy sydd am siarad. Os ydych am siarad yn ystod y cyfnod hwn, dylech roi gwybod i’r Arolygydd. 5.11 Fel arfer, bydd yr Arolygydd yn rhoi crynodeb o achosion yr apelydd a’r ACLl, ac yn dweud pa bynciau a drafodir yn ystod y gwrandawiad. Mynegi eich barn yn y gwrandawiad5.12 Er bod gwrandawiadau yn anffurfiol, mae’n rhaid iddynt fod yn drefnus er mwyn i bawb sy’n rhan o’r apêl gael gwrandawiad teg. Felly, mae’n rhaid i chi wneud eich sylwadau a gofyn eich cwestiynau i’r Arolygydd. Ni fydd yr Arolygydd yn caniatáu i unrhyw un ymyrryd yn y gwrandawiad na chamymddwyn ynddo. 5.13 Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr Arolygydd yn awgrymu y dylid parhau â’r gwrandawiad ar safle’r apêl. Dim ond os bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y gwrandawiad (neu eu cynrychiolwyr) yn gallu bod yn bresennol, ac os na fyddant yn gwrthwynebu’r trefniant, y bydd hyn yn digwydd. Mae’r rhan fwyaf o wrandawiadau yn dod i ben ar ôl unrhyw drafodaeth ar safle’r apêl. Ar ôl y gwrandawiad, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad (gweler adran 8). Ceir diagram o’r weithdrefn ar gyfer gwrandawiad yn Atodiad 2. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |