Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi6 Y weithdrefn ymchwiliad6.1 Dyma’r weithdrefn fwyaf ffurfiol o’r gweithdrefnau apelio, am ei bod fel arfer yn cynnwys apeliadau mwy neu fwy cymhleth. 6.2 Yn aml, dyma’r achosion lle y cyflwynir tystiolaeth arbenigol a chroesholir tystion. Gallai ymchwiliad bara sawl diwrnod, neu wythnosau hyd yn oed. Nid yw’n llys barn, ond yn aml bydd y gweithrediadau yn ymddangos yn weddol debyg, ac fel arfer, bydd cynrychiolwyr cyfreithiol gan yr apelydd a’r ACLl. 6.3 Mae ymchwiliadau yn agored i aelodau o’r cyhoedd, ac er nad oes gennych hawl gyfreithiol i siarad, bydd yr Arolygydd fel arfer yn caniatáu i chi wneud hynny. Mae Arolygwyr yn annog pobl leol i gymryd rhan ym mhroses yr ymchwiliad. Yn aml, gall gwybodaeth a barn leol ychwanegu’n werthfawr at y dystiolaeth fwy ffurfiol a roddir gan yr apelydd a’r ACLl. Anfon eich sylwadau atom6.4 Nid oes rhaid i chi fynd i’r ymchwiliad. Os byddai’n well gennych, gallwch ysgrifennu atom neu anfon neges ebost atom. Os ydych am wneud sylwadau (neu ychwanegu at y rhai a wnaed eisoes) mae’n rhaid i ni eu derbyn o fewn y terfyn amser a roddir yn eich llythyr gan yr ACLl yn eich hysbysu am yr apêl. Mae hyn o fewn chwe wythnos i’r dyddiad y derbyniwn yr apêl – yr enw ar hyn yw’r ‘dyddiad dechrau’. Fel arfer, ni fyddwn yn derbyn sylwadau a dderbynnir yn hwyr. Yn hytrach, byddwn yn eu dychwelyd atoch. Gallwch fynychu’r gwrandawiad o hyd, ond ni fydd gan yr Arolygydd y fantais o fod wedi darllen eich sylwadau. 6.5 Byddwn yn anfon copïau o’ch llythyr neu’ch neges ebost at yr apelydd, yr ACLl a’r Arolygydd. Os byddwn o’r farn bod eich llythyr yn cynnwys sylwadau hiliol neu enllibus, byddwn yn eu dychwelyd atoch cyn i’r Arolygydd neu unrhyw un arall eu gweld. Os byddwch yn dileu’r sylwadau hiliol neu enllibus, gallwch anfon eich llythyr neu’ch neges ebost atom eto. Ond, mae’n rhaid i ni eu derbyn cyn i’r terfyn amser ddod i ben. 6.6 Os yw’n bosibl, anfonwch dri chopi o’ch llythyr atom. Ni fyddwn yn cydnabod eich gohebiaeth oni fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny. Os hoffech gael copi o benderfyniad yr apêl, mae’n rhaid i chi ofyn am un yn eich llythyr neu’ch neges ebost. Trefnu’r ymchwiliad6.7 Byddwn yn cytuno ar ddyddiad ar gyfer yr ymchwiliad gyda’r apelydd a’r ACLl. Nid ydym yn cynnwys unrhyw un arall pan fyddwn yn pennu’r dyddiad. Bydd yr ACLl yn ysgrifennu at bawb a hysbyswyd am yr apêl ac yn rhoi manylion iddynt am yr ymchwiliad, fel yr amser a’r lleoliad. Gallai’r ACLl hefyd roi hysbysiad mewn papur lleol ac mae’n rhaid i’r apelydd roi un ar safle’r apêl bythefnos cyn yr ymchwiliad, yn rhoi’r un wybodaeth. 6.8 Os ydych am weld beth mae’r apelydd a’r ACLl wedi’i ddweud, dylech allu gweld copïau o’u dogfennau apêl yn swyddfeydd y cyngor lleol. Pobl ag anableddau6.9 Rydym am gynnal pob ymchwiliad mewn adeiladau â chyfleusterau priodol ar gyfer pobl ag anableddau. Fel arfer, mae’r ACLl yn dewis ac yn darparu’r ystafell. Os byddwch chi, neu unrhyw un rydych yn ei adnabod, am fynd i’r ymchwiliad a bod gennych anghenion penodol, cysylltwch â’r ACLl i gadarnhau y gallant wneud trefniadau priodol. Cymryd rhan yn yr ymchwiliad6.10 Os ydych am gymryd rhan mewn ymchwiliad, mae angen i chi ystyried yr hyn rydych am ei ddweud a sut rydych am ei ddweud. Mae’n well gan y rhan fwyaf o bobl wneud neu ddarllen datganiad byr yn mynegi eu barn. Os bydd sawl person o’r un farn, mae’n syniad da i un person siarad ar ran y gweddill. Nid yw ailadrodd dadleuon yn yr ymchwiliad yn helpu’r Arolygydd, nac yn gwneud y pwynt yn fwy perthnasol chwaith. 6.11 Os ydych am chwarae rôl arweiniol yn yr ymchwiliad a galw eich tystion eich hun, dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Gallwn ofyn i chi ddarparu datganiad o’ch achos a manylion unrhyw ddogfennau y byddwch yn eu cyflwyno yn yr ymchwiliad. Os gofynnwn am y wybodaeth hon, a’ch bod yn ei darparu, byddwn yn anfon copïau o ddatganiadau’r apelydd a’r ACLl atoch. Beth fydd yn digwydd yn yr ymchwiliad6.12 Os byddwch am siarad yn yr ymchwiliad, mae’n bwysig eich bod yno pan fydd yr ymchwiliad yn agor gan mai dyma pryd y bydd yr Arolygydd yn hysbysu pawb am yr amserlen. 6.13 Ar ddechrau’r ymchwiliad, bydd yr Arolygydd yn mynd drwy rai materion cyffredin, gan gynnwys gofyn pwy fydd yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad. Yn aml, yr enw ar hyn yw ‘nodi’r rhai a fydd yn ymddangos’. Pan fydd yr apelydd a’r ACLl wedi rhoi eu manylion, bydd yr Arolygydd yn gofyn a oes unrhyw un arall am siarad. Yn ystod y cyfnod hwn, dim ond eich enw a’ch cyfeiriad y dylech eu rhoi a dylech ddweud a ydych o blaid neu yn erbyn y cynnig. 6.14 Yna, bydd yr Arolygydd fel arfer yn rhoi amlinelliad o’r hyn a fydd yn digwydd yn yr ymchwiliad. Fel arfer, bydd yr apelydd yn cyflwyno eu hachos yn gyntaf ac yna byddant yn galw unrhyw dystion. Gall yr ACLl a’r Arolygydd ofyn cwestiynau. Yna bydd yr ACLl yn cyflwyno eu hachos yn yr un modd, a gall yr apelydd a’r Arolygydd ofyn unrhyw gwestiynau iddynt hwy neu eu tystion. Mynegi eich barn yn yr ymchwiliad6.15 Pan fydd pob tyst wedi’i holi’n ffurfiol, bydd yr Arolygydd fel arfer yn gofyn a oes unrhyw gwestiynau gan unrhyw un arall sy’n cefnogi neu’n gwrthwynebu’r apêl. Dyma eich cyfle i siarad, ond mae’n rhaid i chi wneud yn siwr bod eich cwestiynau’n berthnasol i’r dystiolaeth a roddwyd gan y tystion. Ni ddylech ailadrodd cwestiynau a ofynnwyd eisoes na cheisio rhoi eich tystiolaeth neu eich barn yn ystod y cyfnod hwn; cewch gyfle i wneud hynny yn ddiweddarach. 6.16 Ar ôl i holl dystion yr apelydd a’r ACLl ateb cwestiynau, fel arfer caiff unrhyw un sydd â diddordeb yn yr achos gyfle i siarad. Yn ystod ymchwiliad hir, mae’n anodd rhagweld pryd y cyrhaeddir y cam hwn. Os na allwch aros yn yr ymchwiliad drwy’r amser, rhowch wybod i’r Arolygydd pan fydd yr ymchwiliad yn agor. Bydd yr Arolygydd yn deall ac yn ceisio helpu drwy wrando ar eich sylwadau yn ystod cam gwahanol o’r ymchwiliad, os bydd hynny’n bosibl. 6.17 Fel arfer, bydd yr Arolygydd yn gofyn a ydych yn barod i ateb cwestiynau am eich tystiolaeth. Nid oes rhaid i chi wneud hyn. Ond bydd eich tystiolaeth yn fwy cadarn os byddwch wedi ateb cwestiynau arni. Os byddwch yn gwrthwynebu’r apêl, bydd cynrychiolydd yr apelydd yn gofyn y cwestiynau hyn. Peidiwch â dychryn. Ni fydd yr Arolygydd yn caniatáu i unrhyw un ofyn cwestiynau anghyfeillgar neu annheg i chi. 6.18 Bydd yr ymchwiliad yn dod i ben gydag areithiau i gloi gan yr ACLl a’r apelydd. Yn dilyn hyn, fel arfer, bydd yr Arolygydd yn ymweld â safle’r apêl. Gan fod yr ymchwiliad wedi dod i ben, ni ellir trafod yr achos ymhellach yn ystod yr ymweliad hwnnw. Mae’r trefniadau’n debyg iawn i’r ymweliadau a wnaed fel rhan o’r weithdrefn ysgrifenedig. Ceir diagram o’r weithdrefn ar gyfer ymchwiliad yn Atodiad 3. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |