Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi8 Y Penderfyniad8.1 Bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r penderfyniad, neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Pan fydd yr Arolygydd yn penderfynu ar yr apêl, byddwn yn anfon copi o’r penderfyniad at yr apelydd; yr ACLl; ac unrhyw un arall a ysgrifennodd atom yn gofyn am gopi ac unrhyw un y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddynt. Pan fydd y Cynulliad yn penderfynu ar yr apêl, y Cynulliad fydd yn cyhoeddi’r penderfyniad. 8.2 Ar gyfer apeliadau y penderfynir arnynt drwy’r weithdrefn ysgrifenedig, ein nod yw cyhoeddi’r penderfyniad o fewn pum wythnos i’r ymweliad â’r safle. Ar gyfer gwrandawiadau, ein nod yw cyhoeddi’r penderfyniad o fewn saith wythnos i ddyddiad y gwrandawiad. Ar gyfer ymchwiliadau sy’n para un neu ddau ddiwrnod, ein nod yw cyhoeddi’r penderfyniad o fewn saith wythnos i’r dyddiad y daw’r ymchwiliad i ben. Ar gyfer ymchwiliadau sy’n para am gyfnod hwy, bydd y broses o ddod i benderfyniad yn cymryd mwy o amser. 8.3 Os bydd y Cynulliad yn gwneud y penderfyniad, gallai’r broses gymryd mwy o amser. |
Cwynion
Swyddi gwag Cwestiynau cyffredin Ffurflenni Rhyddid Gwybodaeth Cylchlythyr Datganiadau i'r wasg a hysbysebion Cyhoeddiadau Safleoedd cysylltiedig Hawliau Tramwy Cymorth Safle Gwybodaeth perfformiad Pwy yw pwy Site Settings You are currently viewing information for Wales Language options: View this site in English |