Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

9 Cwynion

9.1 Os oes gennych unrhyw gwynion neu gwestiynau am y penderfyniad, neu’r ffordd rydym wedi ymdrin â’r apêl, ysgrifennwch at ein Swyddog Cwynion:

Y Swyddog Cwynion
Yr Arolygiaeth Gynllunio
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3889
Ffacs: 029 2082 5150
E-bost: complaints@pins.gsi.gov.uk

9.3 Byddwn yn ymchwilio i’ch cwyn a gallwch ddisgwyl ateb llawn o fewn tair wythnos. Fodd bynnag, ni allwn ailystyried apêl os bydd yr Arolygydd eisoes wedi rhoi penderfyniad arni oni fyddwch yn herio penderfyniad yr Arolygydd yn yr Uchel Lys yn llwyddiannus. (gweler yr adran nesaf).

Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru

9.4 Os ydych o’r farn nad ydym wedi eich trin yn deg, gallwch ofyn i’r Ombwdsmon ymchwilio i’r achos. Nid oes gan yr Ombwdsmon bwer i gwestiynu rhinweddau eich apêl na newid y penderfyniad. Yr unig beth y gall ef neu hi ei ystyried yw ein dull o ymdrin ag apeliadau a’u gweinyddu. Fel arfer bydd yr Ombwdsmon yn disgwyl eich bod wedi cwyno i ni yn gyntaf cyn iddo ef neu hi ymchwilio i’ch achos. Gellir cysylltu ag Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru yn:

Pumed Llawr
Twr y Ddinas
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd
CF10 3AG

Llinell ymholiadau: 0845 601 0987
Ffacs: 029 2022 6909

Yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol

9.5 Os oes gennych gwyn am y ffordd yr ymdriniodd yr ACLl â’ch cais cynllunio, gallwch ofyn i’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol ymchwilio iddo mewn rhai achosion. Fodd bynnag, ni all yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol ymchwilio i gwyn am benderfyniad cynllunio am nad ydych chi a’r ACLl yn cytuno ag ef, ac nid oes gan yr Ombwdsmon bwer i newid y penderfyniad. Gallwch gael llyfryn yn egluro sut i gwyno drwy ysgrifennu at swyddfa’r Ombwdsmon Llywodraeth Leol briodol yn:

Derwen House
Court Road
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 1BN

Ffôn: 01656 661325.

Y Cyngor Tribiwnlysoedd

9.6 Os ydych o’r farn bod rhywbeth wedi bod o’i le ar y weithdrefn sylfaenol a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer eich apêl, gallwch gwyno i’r Cyngor Tribiwnlysoedd yn:

Cyngor Tribiwnlysoedd
22 Kingsway
London
WC2B 6LE.

Bydd y cyngor yn ymdrin â’ch cwyn os credant ei bod yn berthnasol iddynt. Yn yr un modd â’r Ombwdsmon, nid ydynt yn ystyried rhinweddau eich apêl ac nid oes ganddynt bwer i newid y penderfyniad.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English