Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf

10 Yr Uchel Lys

10.1 Dim ond ar sail gyfreithiol y gellir herio penderfyniad apêl yn yr Uchel Lys.

10.2 Er mwyn bod yn llwyddiannus, byddai’n rhaid i chi ddangos:

  • bod yr Arolygydd, neu’r Cynulliad Cenedlaethol, wedi mynd y tu hwnt i’w pwerau; neu
  • nad oeddem wedi dilyn y gweithdrefnau priodol a’n bod wedi amharu ar eich buddiannau felly.

10.3 Os nad oes gennych ddiddordeb cyfreithiol neu ecwitïol yn nhir yr apêl, dim ond os oedd y penderfyniad ar yr apêl hysbysiad gorfodi yn rhoi caniatâd cynllunio neu’n rhyddhau amodau, a bod eich buddiannau wedi dioddef rhagfarn sylweddol yn sgîl hynny, y bydd gennych hawl statudol i apelio i’r Uchel Lys. Byddech yn herio hyn o dan adran 288 Deddf 1990. Os oes gennych ddiddordeb cyfreithiol neu ecwitïol yn nhir yr apêl, gallwch herio unrhyw ran o’r penderfyniad ar yr apêl hysbysiad gorfodi o dan adran 289 Deddf 1990.

10.4 Os bydd eich her yn llwyddiannus, bydd yr Uchel Lys yn gwrthod penderfyniad gwreiddiol yr apêl ac yn dychwelyd yr achos atom, a byddwn yn edrych arno eto. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y caiff y penderfyniad gwreiddiol ei wrthdroi. Gallwn ddod i’r un penderfyniad, ond am resymau gwahanol.

10.5 Os byddwch yn penderfynu herio penderfyniad yr apêl o dan adran 288, mae’n rhaid i chi wneud cais i’r Uchel Lys o fewn chwe wythnos i ddyddiad penderfyniad yr apêl. Os bydd eich her o dan adran 289, dylech wneud cais i’r Uchel Lys am eu caniatâd i gyflwyno’r her o fewn 28 diwrnod i’r penderfyniad. Os byddwch yn gofyn am gopi o benderfyniad yr apêl, byddwn yn anfon taflen atoch sy’n rhoi eglurhad manylach o’ch hawl i herio.

Arolwg Barnwrol

10.6 Os nad oes gennych ddiddordeb yn nhir yr apêl ei hun, ond rydych am herio penderfyniad apêl gorfodi a wnaed ar sail (b) i (g), neu’r penderfyniad i ddirymu’r hysbysiad gorfodi, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys am arolwg barnwrol. Mae’r weithdrefn hon yn weithdrefn anstatudol.

10.7 Cyn i chi benderfynu herio unrhyw benderfyniad apêl, dylech ddeall y bydd yn rhaid i chi, yn ôl pob tebyg, dalu costau cyfreithiol yr ochr arall sy’n amddiffyn y penderfyniad os byddwch yn aflwyddiannus. Efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol yn gyntaf.

Tudalen dwethaf Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English