Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Atodiad 1
Y weithdrefn ysgrifenedig
Amserlen |
Chi |
Apelydd |
ACLl |
Apêl a wnaed
Rydym yn pennu dyddiad dechrau |
Nid yw’n berthnasol. |
Mae’r apelydd yn anfon y ffurflen apelio wedi’i chwblhau
a chopi o’r hysbysiad gorfodi atom ni a’r ACLl. Dylai
sail yr apêl a’r ffeithiau ategol ffurfio eu hachos
llawn. |
Os na fydd yr ACLl am gael y weithdrefn ysgrifenedig (neu os
penderfynwn fod angen i Arolygydd wrando ar yr apêl), byddwn
yn trefnu gwrandawiad neu ymchwiliad. |
O fewn pythefnos i’r dyddiad dechrau |
Rydych yn derbyn llythyr ynglyn â’r apêl gan yr
ACLl yn eich hysbysu bod yn rhaid i chi anfon unrhyw sylwadau atom
o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau. |
Mae’r apelydd yn derbyn holiadur wedi’i gwblhau
ac unrhyw ddogfennau ategol gan yr ACLl. |
Mae’r ACLl yn anfon holiadur wedi’i gwblhau a dogfennau
ategol at yr apelydd ac atom ni. Maent hefyd yn ysgrifennu atoch ynglyn
â’r apêl. |
| O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer, ni dderbynnir datganiadau hwyr ond cânt eu
dychwelyd.) |
Rydych yn anfon 3 chopi o unrhyw sylwadau atom. Os ydych am
gael copi o hysbysiad o benderfyniad yr Arolygydd, mae’n
rhaid i chi ofyn am un drwy ysgrifennu atom. |
Mae’r apelydd yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach
atom.
|
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o unrhyw ddatganiad pellach
atom. |
O fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer ni dderbynnir sylwadau a anfonwyd yn hwyr ond cânt
eu dychwelyd.) |
Mae’r apelydd a’r ACLl yn gwneud eu sylwadau ysgrifenedig
terfynol.
Ni allwch wneud mwy o sylwadau ysgrifenedig
yn ystod y cyfnod hwn. |
Mae’r apelydd yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol
ar ddatganiad yr ACLl ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol
ar ddatganiad yr apelydd ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd. |
* Mae’n rhaid anfon datganiadau a sylwadau er mwyn iddynt
gael eu derbyn o fewn y terfynau amser
Nodyn: Rydym yn anfon copïau o ddatganiadau a sylwadau atoch chi
a’r ACLl gyda’r post dosbarth cyntaf.
Penderfyniad: Ar ôl ymweld â’r safle
(neu gael hysbysiad na chynhelir ymweliad), bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r
penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Anfonir
copi o’r hysbysiad o benderfyniad at yr apelydd a’r ACLl.
Anfonir copi hefyd at unrhyw un sy’n gofyn am un, yn ogystal ag
unrhyw berson y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddynt.

|