Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Tudalen dwethaf Tablcynnwys Tudalen nesaf

Atodiad 2

Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad

Amserlen

Chi

Apelydd

ACLl

Apêl a wnaed

Rydym yn pennu dyddiad dechrau

Nid yw’n berthnasol.

Mae’r apelydd yn anfon y ffurflen apelio a’r holl ddogfennau ategol atom ni a’r ACLl.

Mae’r ACLl yn ein hysbysu os nad ydynt o’r farn bod gwrandawiad yn addas.

O fewn pythefnos i’r dyddiad dechrau

Rydych yn derbyn llythyr ynglyn â’r apêl gan yr ACLl yn eich hysbysu bod yn rhaid i chi anfon unrhyw sylwadau atom o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau.

Mae’r apelydd yn derbyn holiadur wedi’i gwblhau ac unrhyw ddogfennau ategol gan yr ACLl.

Mae’r ACLl yn anfon holiadur wedi’i gwblhau a dogfennau ategol at yr apelydd ac atom ni. Maent hefyd yn ysgrifennu atoch ynglyn â’r apêl.

O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer, ni dderbynnir datganiadau hwyr ond cânt eu dychwelyd.)

Rydych yn anfon 3 chopi o unrhyw sylwadau atom. Os ydych am gael copi o hysbysiad o benderfyniad yr Arolygydd, mae’n rhaid i chi ofyn am un drwy ysgrifennu atom.

Mae’r apelydd yn anfon 2 gopi o’u datganiad o’r gwrandawiad atom.

Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u datganiad o’r gwrandawiad atom.

O fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer ni dderbynnir sylwadau a anfonwyd yn hwyr ond cânt eu dychwelyd.)

Mae’r apelydd a’r ACLl yn gwneud eu sylwadau ysgrifenedig terfynol.
Ni allwch wneud mwy o sylwadau ysgrifenedig yn ystod y cyfnod hwn.
Ond gallwch fynychu’r gwrandawiad

Mae’r apelydd yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol ar ddatganiad yr ACLl ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd.

Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol ar ddatganiad yr apelydd ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd.
Gallant roi hysbysiad am y gwrandawiad mewn papur newydd lleol bythefnos cyn y dyddiad a’ch hysbysu am y trefniadau.

* Mae’n rhaid anfon datganiadau a sylwadau er mwyn iddynt gael eu derbyn o fewn y terfynau amser

Nodyn: Rydym yn anfon copïau o ddatganiadau a sylwadau atoch chi a’r ACLl gyda’r post dosbarth cyntaf.

Penderfyniad: Ar ôl y gwrandawiad, bydd yr Arolygydd yn ysgrifennu’r penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Anfonir copi o’r hysbysiad o benderfyniad at yr apelydd a’r ACLl. Anfonir copi hefyd at unrhyw un sy’n gofyn am un, yn ogystal ag unrhyw berson y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad gorfodi iddynt.

Tudalen dwethaf Tablcynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English