Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Atodiad 3
Y weithdrefn ar gyfer ymchwiliad
Amserlen |
Chi |
Apelydd |
ACLl |
Apêl a wnaed
Rydym yn pennu dyddiad dechrau |
Nid yw’n berthnasol. |
Mae’r apelydd yn anfon y ffurflen apelio wedi’i chwblhau
a’r holl ddogfennau ategol atom ni a’r ACLl. |
Mae’r ACLl yn derbyn dogfennau’r apêl. |
O fewn pythefnos i’r dyddiad dechrau |
Rydych yn derbyn llythyr ynglyn â’r apêl gan yr
ACLl yn eich hysbysu bod yn rhaid i chi anfon unrhyw sylwadau atom
o fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau. |
Mae’r apelydd yn derbyn holiadur wedi’i gwblhau
ac unrhyw ddogfennau ategol gan yr ACLl. |
Mae’r ACLl yn anfon holiadur wedi’i gwblhau a dogfennau
ategol at yr apelydd ac atom ni. Maent yn ysgrifennu atoch ynglyn
â’r apêl. |
O fewn 6 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer, ni dderbynnir datganiadau na sylwadau hwyr ond cânt
eu dychwelyd.) |
Rydych yn anfon 3 chopi o unrhyw sylwadau atom. Os ydych am
gael copi o hysbysiad o benderfyniad yr Arolygydd, mae’n
rhaid i chi ofyn am un drwy ysgrifennu atom. |
Mae’r apelydd yn anfon 2 gopi o’u datganiad o’r
ymchwiliad atom. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u datganiad o’r
ymchwiliad atom. |
O fewn 9 wythnos i’r dyddiad dechrau*
(Fel arfer, ni dderbynnir datganiadau a anfonwyd yn hwyr ond
cânt
eu dychwelyd.) |
Mae’r apelydd a’r ACLl yn gwneud eu sylwadau ysgrifenedig
terfynol.
Ni allwch wneud mwy o sylwadau ysgrifenedig
yn ystod y cyfnod hwn.
Ond gallwch fynychu’r ymchwiliad. |
Mae’r apelydd yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol
ar ddatganiad yr ACLl ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u sylwadau terfynol
ar ddatganiad yr apelydd ac unrhyw sylwadau a wnaed gennych atom.
Ni chaniateir unrhyw dystiolaeth newydd. |
4 wythnos cyn yr ymchwiliad*
(Fel arfer, ni dderbynnir datganiadau ysgrifenedig o dystiolaeth
a anfonwyd yn hwyr, ond cânt eu dychwelyd.) |
Mae’r ACLl yn eich hysbysu am yr ymchwiliad. Gallwch fynychu’r
ymchwiliad, a mynegi eich barn, yn ôl disgresiwn yr Arolygydd. |
Mae’r apelydd yn anfon 2 gopi o’u datganiad ysgrifenedig
o dystiolaeth ac 1 copi o’r datganiad o dir cyffredin atom. |
Mae’r ACLl yn anfon 2 gopi o’u datganiad o dystiolaeth
atom. Mae’r ACLl yn rhoi hysbysiad am yr ymchwiliad mewn
papur lleol ac yn eich hysbysu am y trefniadau. |
* Mae’n rhaid anfon datganiadau a sylwadau er mwyn iddynt
gael eu derbyn o fewn y terfynau amser
Nodyn: Rydym yn anfon copïau o ddatganiadau a sylwadau atoch chi
a’r ACLl gyda’r post dosbarth cyntaf.
Penderfyniad: Ar ôl yr ymchwiliad, bydd yr Arolygydd
yn ysgrifennu’r
penderfyniad neu’n anfon adroddiad i’r Cynulliad. Anfonir
copi o’r hysbysiad o
benderfyniad atoch chi a’r ACLl. Anfonir copi hefyd at unrhyw un
sy’n
gofyn am un, yn ogystal ag unrhyw berson y cyflwynwyd copi o’r hysbysiad
gorfodi iddynt.

|