Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Atodiad 4
Cod Ymddygiad yr Arolygydd – egwyddorion gwaith yr
Arolygwyr*
* Er bod yr egwyddorion hyn yn ymwneud yn bennaf ag Arolygwyr Cynllunio,
maent hefyd yr un mor berthnasol i bawb sy’n gwneud penderfyniadau
yn yr Arolygiaeth Gynllunio.
- Mae Arolygwyr yn gwneud eu penderfyniadau a’u hargymhellion er
budd y cyhoedd.
- Nid yw Arolygwyr yn barnu achosion ymlaen llaw.
- Nid yw Arolygwyr yn ymwneud ag achosion pan fydd ganddynt ddiddordeb
ariannol neu ddiddordeb personol a allai arwain at amgyffrediad rhesymol
o duedd.
- Ni fydd ystyriaethau amherthnasol na dylanwadau o’r tu allan
yn dylanwadu ar Arolygwyr pan fyddant yn gwneud eu penderfyniadau a’u
hargymhellion.
- Mae Arolygwyr yn gwrthod pob rhodd, lletygarwch a buddiannau eraill
a gynigir iddynt gan bartïon sydd â diddordeb mewn achos.
- Mae Arolygwyr yn cynnal achosion mor gyflym â phosibl.
- Mae Arolygwyr yn trin pob unigolyn sy’n ymddangos ger eu bron
gydag urddas a pharch.
- Nid yw Arolygwyr yn gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol,
statws priodasol, crefydd, anabledd, ac oedran, neu fel arall.
- Mae Arolygwyr yn osgoi oedi diangen wrth ddod i’w penderfyniadau
a’u hargymhellion.
- Mae Arolygwyr yn rhoi rhesymau dros eu penderfyniadau a’u hargymhellion.
- Mae Arolygwyr yn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth broffesiynol a’r
sgiliau diweddaraf.
- Mae Arolygwyr yn gyfrifol am eu penderfyniadau a’u hargymhellion
ac yn barod i eraill graffu ar eu gwaith pan fydd hynny’n briodol.

|