Canllaw i gymryd rhan mewn apeliadau gorfodi

Atodiad 5
Deddf Diogelu Data a Phreifatrwydd yn yrArolygiaeth
Gynllunio
Cyflwyniad
O dan Ddeddf Diogelu Data 1998, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i’ch
hysbysu
am unrhyw wybodaeth a gasglwn gennych a’i diogelu.
Wrth ystyried apêl, mae’r Arolygydd (neu’r Cynulliad)
yn cael amrywiaeth o wybodaeth bersonol. Daw’r wybodaeth hon o
nifer o ffynonellau, gan gynnwys:
- y cais gwreiddiol, ynghyd ag unrhyw ddogfennau o gefnogaeth neu
wrthwynebiad;
- y ffurflen apelio ynghyd ag unrhyw ddogfennau pellach o gefnogaeth
neu wrthwynebiad;
Yn unol â rhwymedigaethau statudol presennol, bydd y rhan fwyaf
o’r ddogfennaeth a dderbynnir ar gael i’r cyhoedd. Serch
hynny, mae’r Arolygiaeth Gynllunio, fel rhan o’r Cynulliad,
yn cydnabod pwysigrwydd preifatrwydd unigolion. Mae’r nodiadau
hyn yn nodi pa wybodaeth a gesglir gennym a sut y’i defnyddir.
Diogelu Data
Rydym wedi rhoi gweithdrefnau ar waith er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Deddf
Diogelu Data 1998 wrth ymdrin â’ch gwybodaeth bersonol.
Yn arbennig:
- dim ond at ddibenion sy’n ymwneud ag ymdrin â’r
apêl gynllunio berthnasol y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
bersonol;
- dim ond am gyhyd ag y bydd angen y byddwn yn cadw eich gwybodaeth
bersonol. Fel arfer, ar gyfer apeliadau cynllunio wedi’u cwblhau,
12 mis yw’r cyfnod hwn, er y byddwn yn sicr yn cadw copi o benderfyniad
yr Arolygydd am gyfnod amhenodol. Efallai y bydd gwybodaeth bersonol
yn rhan o benderfyniad yr Arolygydd.
Pwy all weld eich gwybodaeth bersonol?
Bydd papurau’r apêl ar gael i’w harchwilio yn swyddfeydd
y cyngor, a gall unrhyw un edrych arnynt.
Mae gan unrhyw un sydd â hawl i gael ei hysbysu am y penderfyniad
mewn achos ymchwiliad hawl gyfreithiol i wneud cais i archwilio’r
dogfennau, y ffotograffau a’r cynlluniau a restrir o fewn 6 wythnos
i ddyddiad y penderfyniad. Fel arfer, ni wrthodir ceisiadau eraill i
weld dogfennau’r apêl.
Yn ogystal, pan fydd y Porth Cynllunio electronig ar gael, rhoddir y
mwyafrif o’r wybodaeth bersonol a dderbynnir ar y wefan Gwaith
achos [www.planningportal.gov.uk] a gall unrhyw drydydd parti ledled
y byd gael mynediad iddi, gan gynnwys unigolion neu sefydliadau nad oes
ganddynt ddiddordeb uniongyrchol yn yr apêl benodol.
Pa wybodaeth a gesglir gennym?
Wrth ymdrin ag apêl, gallwn dderbyn gwybodaeth bersonol amdanoch
gan nifer o bartïon, gan gynnwys:
- awdurdodau cynllunio lleol;
- chi;
- partïon eraill â diddordeb yn yr apêl.
Mae’r wybodaeth a dderbyniwn yn amrywio, ond gallai gynnwys:
- manylion eich enw, eich cyfeiriad a’ch galwedigaeth;
- gwybodaeth yn ymwneud â’ch iechyd;
- gwybodaeth yn ymwneud â’ch barn neu’ch bwriad
mewn perthynas â chais cynllunio/apêl gynllunio.
Pa gamau y dylech eu cymryd?
- Dim ond gwybodaeth bersonol rydych yn fodlon iddi fod ar gael i’r
cyhoedd y dylech ei darparu.
- Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol am drydydd parti arall
(gan gynnwys aelodau o’r teulu) oni fyddwch wedi hysbysu’r
unigolyn dan sylw, a’u bod yn fodlon i chi ei hanfon.
- Os bydd unrhyw wybodaeth bersonol a ddarparwyd gennych yn newid,
rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Y Rheolwr Data
Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog yw’r rheolwr data (y sefydliad
sy’n gyfrifol am ymdrin â gwybodaeth bersonol).
Eich Hawl i Weld Data Personol
Mae’n rhaid i ni roi copi darllenadwy o’r data personol
a gedwir amdanoch i chi o fewn 40 diwrnod. Codir tâl statudol o £10.
Bydd angen tystiolaeth neu brawf adnabod. Mae cadw data cywir yn bwysig
er ein lles ni a’ch lles chi. Os bydd y data a gedwir gennym yn
anghywir mewn unrhyw ffordd, yna gellir:
- dileu,
- cywiro neu ddiwygio,
- cwblhau,
y data heb godi tâl arnoch lle y bo’n briodol.
Ar gyfer unrhyw ymholiad neu bryder ynghylch ein polisi preifatrwydd,
neu i ofyn am gael gweld eich data personol, cysylltwch â’n
Rheolwr Data:
Alastair Grant
Data Manager
The Planning Inspectorate
Room 3/16 Eagle Wing
Temple Quay House
2, The Square,
Temple Quay
Bristol BS1 6PN
Ffôn: 0117 372 8922
Ebost: alastair.grant@planning-inspectorate.gsi.gov.uk
Ceir gwybodaeth gysylltiedig am ein Polisi Preifatrwydd yn yr adran
wedi’i marcio “Datganiad
preifatrwydd”.
Anghydfod
Ein nod yw sicrhau ein bod yn datrys unrhyw faterion yn foddhaol, fodd
bynnag, os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb, gallwch gysylltu â:
The Information Commissioner
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Switsfwrdd: 01625 545 700
Ffacs: 01625 524 510
DX: 20819 Wilmslow
Gwefan: http://www.dataprotection.gov.uk/
E-bost: mail@dataprotection.gov.uk

|