Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Taflen Herio’r Uchel Lys mewn perthynas â Gorfodi Adeilad Rhestredig ac Ardal Gadwraeth

Hawl i Herio Penderfyniad Apêl Gorfodi Adeilad Rhestredig neu Ardal Gadwraeth

Mae’r penderfyniad apêl atodedig yn derfynol oni chaiff ei herio’n llwyddiannus yn y Llysoedd ar bwynt cyfreithiol. Os bydd her yn llwyddiannus dychwelir yr achos at Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan y Llys er mwyn penderfynu arno eto. Fodd bynnag, os penderfynir ar yr achos eto, nid yw’n golygu y caiff penderfyniad gwreiddiol yr apêl ei wrthdroi o reidrwydd.

Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, gellir gwneud apêl i’r Uchel Lys o dan naill ai un o adrannau 65 a 63 Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, neu’r ddwy ohonynt. Mae gwahaniaethau rhwng y ddwy adran, gan gynnwys gwahanol derfynau amser, a allai effeithio ar eich dewis o ba un i’w defnyddio. Amlinellir y rhain isod.

Efallai y byddwch am ystyried cymryd cyngor cyfreithiol cyn dechrau’r her. Darperir y nodiadau canlynol fel canllaw yn unig.

Heriau o dan Adran 65

Mae adran 65 yn rhagamodi y gall yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol neu unrhyw berson sydd â diddordeb Footnote 1 yn y tir y mae’r hysbysiad gorfodi yn ymwneud ag ef apelio i’r Uchel Lys yn erbyn y penderfyniad ar bwynt cyfreithiol.

Dim ond gyda chaniatâd y Llys y gall apêl o dan adran 65 fynd yn ei blaen. Mae’n rhaid i gais am ganiatâd i apelio gael ei wneud i’r Llys o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad apêl, onid ymestynnir y cyfnod gan y Llys. Os nad chi yw’r apelydd, yr awdurdod cynllunio neu’r person â diddordeb yn y tir ond rydych am herio penderfyniad apêl gorfodi ar sail (a) i (d) neu (f) i (k), neu’r penderfyniad i ddileu’r hysbysiad, gallwch wneud cais am adolygiad barnwrol. Dylech geisio cyngor cyfreithiol ar unwaith os dymunwch ddefnyddio’r weithdrefn anstatudol hon.  

Heriau o dan Adran 63 Deddf 1990

Gellir herio penderfyniadau ar apeliadau a wnaed o dan adran 20 (caniatâd adeilad rhestredig) o dan yr adran hon. Mae adran 63 hefyd yn ymwneud ag apeliadau gorfodi, ond dim ond i benderfyniadau sy’n rhoi caniatâd adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth neu amodau rhyddhau. Ni fyddai llwyddo o dan adran 63 yn unig yn newid unrhyw agwedd arall ar benderfyniad apêl gorfodi. Byddai’r hysbysiad gorfodi yn parhau i gael ei ddileu oni chaiff ei herio’n llwyddiannus o dan adran 65 neu gan adolygiad barnwrol. 

Mae adran 63 yn rhagamodi y gall person sy’n tybio iddo gael cam yn sgîl penderfyniad i roi caniatâd adeilad rhestredig neu ardal gadwraeth neu amodau rhyddhau (neu apêl gorfodi) neu yn sgîl unrhyw benderfyniad ar apêl gysylltiedig o dan adran 20 y Ddeddf, gwestiynu dilysrwydd y penderfyniad hwnnw drwy wneud cais i’r Uchel Lys ar y sail:-

  1. nad yw’r penderfyniad o fewn pwerau’r Ddeddf; neu
  2. na chydymffurfiwyd ag unrhyw un o’r ‘gofynion perthnasol’ (mae ‘gofynion perthnasol’ yn golygu unrhyw ofynion sy’n rhan o Ddeddf 1990 neu Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992, neu unrhyw orchymyn, rheoliad neu reol a wnaed o dan y naill Ddeddf neu’r llall).

Mewn gwirionedd, mae’r ddwy sail hon yn golygu na ellir herio penderfyniad am nad oes rhywun yn cytuno â dyfarniad yr Arolygydd. Mae’n rhaid i’r rhai sy’n herio penderfyniad allu dangos bod camgymeriad difrifol wedi’i wneud gan yr Arolygydd hwnnw wrth ddod i’w benderfyniad neu ei phenderfyniad; neu, er enghraifft, nad ymdriniwyd â’r ymchwiliad, y gwrandawiad neu’r ymweliad â’r safle yn gywir, neu na chynhaliwyd y gweithdrefnau apelio yn briodol. Os gwnaed camgymeriad, efallai y bydd y Llys yn penderfynu peidio â dileu’r penderfyniad os na niweidiwyd buddiannau’r person sy’n herio.

O dan adran 63, noder bod yn rhaid i gais i’r Uchel Lys gael ei gyflwyno i Swyddfa’r Goron o fewn 6 wythnos i ddyddiad y llythyr penderfyniad atodol. Ni ellir ymestyn y terfyn amser hwn. Nid oes angen caniatâd yr Uchel Lys ar gyfer her o’r fath.

Cyngor

Os bydd angen rhagor o gyngor arnoch ar herio’r Uchel Lys, dylech gysylltu â chyfreithiwr neu gynghorwr arall neu cysylltwch â Swyddfa’r Goron yn Royal Courts of Justice, Queens Bench Division, Strand, London, WC2 2LL. Ffôn: 0171 936 6000.

Arolygu Dogfennau

Mewn achos lle y cynhelir ymchwiliad, mae gan unrhyw berson sydd â hawl i gael ei hysbysu o’r penderfyniad hawl statudol i edrych ar y dogfennau, y ffotograffau a’r cynlluniau a restrir o fewn 6 wythnos i ddyddiad y llythyr penderfyniad. Fel arfer, ni wrthodir ceisiadau eraill i weld dogfennau apeliadau ond dylech nodi bod ein ffeiliau ar gyfer apeliadau fel arfer yn cael eu dinistrio blwyddyn ar ôl cyflwyno’r penderfyniad. Gwnewch eich cais i'r Arolygiaeth Gynllunio, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ gan ddyfynnu cyfeirnod apelio’r Arolygiaeth a nodi’r diwrnod a’r amser y dymunwch gynnal eich ymweliad. Rhowch o leiaf 3 diwrnod o rybudd a chynhwyswch rif ffôn ar gyfer y dydd, os yn bosibl.

Cwynion i’r Arolygiaeth

Gallwch wneud cwyn ysgrifenedig am y llythyr penderfyniad, neu am y ffordd y cynhaliodd yr Arolygydd yr achos neu unrhyw agwedd weithdrefnol ar yr apêl i:

Yr Arolygiaeth Gynllunio
Swyddog Cwynion
Adeilad y Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 029 2082 3889
Ffacs: 029 2082 5150
E-bost: complaints@planning-inspectorate.gsi.gov.uk

Dyfynnwch gyfeirnod apelio’r Arolygiaeth. Ein nod yw anfon ateb llawn atoch o fewn 15 diwrnod i’r dyddiad y derbyniwyd eich llythyr. Nodwch na allwn ailystyried unrhyw apêl na’r penderfyniad unwaith y cyflwynwyd y penderfyniad. Dim ond yn dilyn her lwyddiannus yn yr Uchel Lys y gellir gwneud hyn, fel yr eglurir yn y daflen hon.

Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru

Os ydych o’r farn eich bod wedi cael eich trin yn annheg drwy gamweinyddu ar ran yr Arolygiaeth neu’r Arolygydd, gallwch ofyn i’r Ombwdsmon ymchwilio i’r achos.

Cyn gwneud hynny, dylech wneud cwyn ysgrifenedig i swyddog cwynion yr Arolygiaeth. Os na fyddwch yn fodlon â’n hymateb, dylech wneud cwyn ysgrifenedig i’r ombwdsmon gan ddefnyddio eu ffurflen gwyno. Gallwch gael y rhain yn:

Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru
Pumed Llawr
Twr y Ddinas
Heol y Brodyr Llwydion
Caerdydd
CF10 3AG

Er y gall yr Ombwdsmon argymell ffurfiau amrywiol o unioni’r sefyllfa, ni all newid penderfyniad yr apêl mewn unrhyw ffordd.

Y Cyngor Tribiwnlysoedd

Os ydych o’r farn bod rhywbeth o’i le ar y weithdrefn sylfaenol a ddefnyddiwyd gennym ar gyfer yr apêl, gallwch gwyno i’r ‘Council on Tribunals’, 22 Kingsway, London, WC2B 6LE. Bydd y Cyngor yn ymgymryd â’r mater os credant ei fod o fewn eu cwmpas. Nid ydynt yn ystyried rhinweddau’r apêl ac ni allant newid canlyniad penderfyniad yr apêl.

1. Yn y bôn, mae cael diddordeb yn y tir yn golygu perchen ar y safle, perchen yn rhannol ar y safle, prydlesu’r safle, ac mewn rhai achosion, meddu ar y safle.


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English