Yr Arolygiaeth Gynllunio - Cymru

Gwneud eich apêl gorfodi

Tabl cynnwys Tudalen nesaf

Ynglyn â’r Arolygiaeth Gynllunio

Rydym yn rhan o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad) a Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM). Rydym yn ymdrin ag apeliadau gorfodi yng Nghymru o’n swyddfa yng Nghaerdydd ac apeliadau gorfodi yn Lloegr o’n swyddfa ym Mryste. Mae gan yr Arolygwyr, sy’n dyfarnu’r rhan fwyaf o’r apeliadau, amrywiaeth o gefndiroedd. Ymhlith y rhain mae cynllunio tref, tirfesur a pheirianneg, pensaernïaeth a’r gyfraith. Rydym yn dewis yr Arolygwyr yn ofalus iawn ac yn eu hyfforddi yn drylwyr.

Pan fydd staff ein swyddfa yn cael eich ffurflen apelio, byddant yn casglu’r holl wybodaeth am eich achos. Os bydd gennych unrhyw gwestiynau amdani, gallwch gysylltu â’ch swyddog achos. Byddwn yn rhoi eu henw a’u rhif ffôn i chi. Ychydig cyn yr ymweliad â’r safle, y gwrandawiad neu’r ymchwiliad, bydd y swyddog achos yn anfon eich papurau apêl at yr Arolygydd, a fydd yn eu hastudio. Yn y rhan fwyaf o achosion yr Arolygydd fydd yn ysgrifennu’r penderfyniad ond mewn rhai achosion bydd yr Arolygydd yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad, a fydd yn gwneud y penderfyniad. Bydd eich swyddog achos yn anfon y penderfyniad atoch.

Mae’r llyfryn hwn yn egluro’r gweithdrefnau ar gyfer apeliadau a wneir yng Nghymru ar neu ar ôl 1 Ebril 2003 yn erbyn hysbysiad gorfodi. Os ydych am gael cyngor ar apeliadau yn Lloegr, dylech gysylltu â’n swyddfa ym Mryste. Roedd y wybodaeth a gynhwysir yn y llyfryn yn gywir ar y dyddiad cyhoeddi, ond nid oes unrhyw statws cyfreithiol ganddo. Byddwn yn ymdrin â phob apêl mor effeithlon ag y gallwn. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn dibynnu ar gydweithrediad pawb. Mae apeliadau sy’n ymwneud â hysbysiadau gorfodi ar adeiladau rhestredig neu adeiladau mewn ardal gadwraeth yn debyg i apeliadau gorfodi arferol. Ond mae Atodiad 4 yn eich hysbysu am rai o’r prif wahaniaethau.

Tabl cynnwys Tudalen nesaf


Cwynion
Swyddi gwag
Cwestiynau cyffredin
Ffurflenni
Rhyddid Gwybodaeth
Cylchlythyr
Datganiadau i'r wasg a hysbysebion
Cyhoeddiadau
Safleoedd cysylltiedig
Hawliau Tramwy
Cymorth Safle
Gwybodaeth perfformiad
Pwy yw pwy

Site Settings

You are currently viewing information for Wales

View information for England


Language options:
View this site in English